Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rydd oddiwrth yr ysfa sydd yn blino rhai am wybod hanes a dirgelion eu cymydogion, ac oddiwrth y cyfrwysdra a arferir ganddynt tuag at hyny. Y mae troad llygad ambell un wrth ofyn cwestiwn digon syml yn peri meddwl fod rhyw amcan iddo mwy nag sydd yn ymddangos ar y wyneb, nes y gwneir i ni betruso sut i'w ateb, os nad hefyd i'w droi heibio heb ei ateb o gwbl. Y mae rhai yn ymffrostio yn eu cyfrwysdra i wneuthur y fath bethau. Unwaith yr argyhoedder ni am ddyn mai dyn felly ydyw y mae doethineb yn galw arnom i fod yn ochelgar iawn wrth ateb ei gwestiynau symlaf, os bydd a wnelont o fewn y ddegfed radd a'r hyn na fynem i bawb ei wybod. Gwyddom am rai drwy holiadau syml yn gyfrwys iawn i dynu i'r golwg wendidau y rhai a gymerent arnynt fod yn gyfeillion iddynt, er mwyn eu gwneyd yn destunau digrifwch gydag ereill. Nid yw dynion felly yn hir iawn heb gael eu hadnabod nes y tynir. oddiwrthynt ac yr ymwrthodir a'u cyfeillgarwch gan y rhai a fuont mor anffodus a chael eu denu i osod ymddiried ynddynt. Nid oedd. dim cyfrwysdra felly yn agos at Hwfa. Yr oedd efe mor ddiniwed a'r golomen. Yn wir buasai yn dda iddo pe buasai wedi meddu ar ychydig o gyfrwysdra y sarph, canys buasai hyny wedi ei gadw rhag ambell brofedigaeth y cafodd ei arwain iddi gan ei ddiniweidrwydd. Clywais fod un gwr enwog— un o'r rhai gynt— wedi dweyd fod pobl Sir Fon, yn hynod ofalus am number one a'u bod yn gyfrwys iawn i sicrhau buddiant y number hwnw sut bynag y daw ar number two. Os ydyw hyny yn wir fel rheol— nid wyf yn gwybod a ydyw ai peidio— yr oedd Hwfa yn eithriad amlwg i'r rheol hono. Yr oedd number two yn bur bwysig yn ei olwg ef, ac ni chlybuwyd son am dano erioed yn gosod ei droed ar number two er mwyn mantais a dyrchafiad i number one. Nid oedd dim o'r yspryd un— anol hwnw ynddo o gwbl. Dringodd i fyny i'r sylw a'r poblogrwydd a gafodd yn hollol ar ei gost ei hun heb geisio darostwng neb arall er mwyn codi ei hun. Os costiodd i rai brofi pangfeydd o eiddigedd wrtho nid oedd gan Hwfa ddim help am hyny.

Yn y flwyddyn 1893, sef blwyddyn Ffair fawr y byd a gynhelid yn