Chicago penderfynodd y diweddar Barch Joseph Rowlands Talysarn a minau fyned i'r America nid er mwyn gweled y Ffair yn gymaint ag i ymweled â rhai o'r sefydliadau Cymreig sydd ar wasgar yn yr Unol Daleithiau. Yr oedd Hwfa wedi cael gwahoddiad taer i fod yn bresenol yn yr Eisteddfod oedd i gael ei chynal yn Chicago y flwyddyn hono. Ymddengys iddo fod am amser yn petruso pa un ai myned a wnai ai peidio; ond pan y clybu ein bod ni am fyned bu hyny yn foddion i benderfynu y ddadl oedd yn ei feddwl, o ochr cydsynio a'r cais a dderbyniasai a threfnodd i groesi y môr gyda ni. Hwyliasom allan yn y "Teutonic "—y llong y soniodd cymaint am dani yn y ddarlith boblogaidd a draddododd ar hyd a lled Cymru yn ei flynyddoedd diweddaf ar "Dros y Don." Ar fwrdd y Teutonic cawsom ystafell—gysgu i ni ein hunain heb fod neb arall gyda ni i aflonyddu arnom er bod ynddi le i bedwar, ac ni threuliasom wythnos ddifyrach erioed nag a gawsom yn nghwmni ein gilydd wrth groesi y môr o Liverpool i New York. Yr oedd Hwfa yn siriol a llawen ar hyd yr amser, yn mwynhau pob peth oddieithr pan y gwelai ambell foryn yn codi tipyn ar ei wrychyn yr hyn a barai iddo dybied bod ystorm fawr yn curo arnom. "It is a great storm!" meddai un bore wrth un o swyddogion y llong "O no" ebai yntau tan wenu "this is only what we call a fine breeze." Ond ni waeth pa beth a ddywedid ni fynai gredu nad oedd yn "great storm" arnom. Yr oedd amryw o Gymry yn y steerage, ar modd y daethom i wybod eu bod yno oedd, i ni eu clywed yn canu hen donau Cymreig, ar y deck islaw. Tra yn sefyll ar y deck uchaf yn edrych i lawr ac yn gwrandaw arnynt cododd un o'r cantorion ei olwg i fynu a gwelodd ni a chyfeiriodd sylw y lleill atom, a deallasom eu bod yn ein hadnabod oblegid cyfarchasant ni wrth ein henwau. Nos Sadwrn anfonasant genadwri atom i ofyn i un o honom draddodi pregeth iddynt ar eu deck hwy prydnawn Sabboth. Trefnasom mai Hwfa oedd y pregethwr i fod, a rhoddasom ei gyhoeddiad iddynt. Ond erbyn i'r Sabboth ddod yr oeddym ar fanciau Newfoundland yn nghanol y niwl tew sydd yn arferol o fod yno; ac mor oer a llaith oedd yr hin
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/141
Gwedd