Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel y barnwyd yn ddoeth i beidio cynal yr oedfa. Nos Sabboth aethom i'r gwasanaeth a gynhelid yn yr ail Saloon pryd y cawsom bregeth gan frawd weinidog o Sais ac yna ar ol swppera aethom i lawr i fyned i'n gwelyau. Wedi myned i'r ystafell eisteddodd Hwfa i lawr a dyweddodd "Wel frodyr gadewch i ni gael tipyn o ddyledswydd yn yr hen Gymraeg heno, cyn myned i orphwys." A hyny a fu. Darllenodd un o honom benod ac aeth un arall i weddi ac yna aethom i orphwys. Y mae y "tipyn o ddyledswydd" hono a gynhaliwyd genym ar fanciau Newfoundland yn nghanol y niwl tew, ar llong wedi arafu i lai na haner ei chyflymdra arferol, a'r corn niwl, bob yn ddau neu dri munyd yn anfon allan hir—sain. drymaidd i rybuddio unryw long a allai fod yn ein hymyl, rhag iddi ddyfod i wrthdarawiad â ni, y mae y "tipyn o ddyledswydd " hono, meddaf, yn aros ar fy meddwl mor fyw ag un o ddigwyddiadau y daith. Y mae Hwfa a Rowlands wedi dod o hyd i'w gilydd bellach yn y wlad well a chredaf fod y tro hwnw mewn côf ganddynt hwy yno, a dichon eu bod hwy, erbyn hyn, yn awyr glir y wlad hono yn gallu gweled mwy o ganlyniad i'r "tipyn o ddyledswydd" hono nag a welaf fi sydd hyd yn hyn yn nghanol niwl a tharth y byd hwn. Yr wyf yn crybwyll am y tro am ei fod yn arddangosiad o'r yspryd crefyddol oedd yn Hwfa, ac oedd yn fwy amlwg ynddo i'r rhai a gawsant gydnabyddiaeth agos ag ef, nag i neb arall. Dranoeth wedi y dydd y glaniasom yn New York, gadawodd Hwfa ni i fyned i Pensylfania i ddechreu dilyn ei gyhoeddiadau, ac aethom ninau i fyny yr afon Hudson i ogleddbarth talaeth New York i ddechreu ar ein gwaith yno. Yn ol y cynllun oedd wedi ei dynu allan i'n taith gan y cyfeillion caredig oedd wedi ymgymeryd â'r drafferth o wneyd hyny, yr oedd Hwfa a ninau i gyfarfod a'n gilydd yn nghymanfa Oneida yn mhen oddeutu tri mis wedi i ni ymwahanu yn New York. Yn ystod y tri mis hyny cyrhaeddai son am dano hyd atom yn fynych, a gwelem aml grybwylliad am dano yn y papurau Cymreig, a Seisnig hefyd, a deallem ei fod yn cael derbyniad hynod o groesawus yn mhob man yr elai iddo. Ni chawsom fod yn yr