Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwrecsam; W. Hughes, Y.H., Dolgellau; J. Thomas (Eifionydd), Caernarvon; E. Vincent Evans, Llundain; L. J. Roberts, M.A., Rhyl; E. Lettsome, Llangollen; Christopher Williams, Arlunydd; Pierce Davies a J. Pritchard, Abergele; William Roberts, Dinbych; ynghyda Mri. Arthur Rowlands "Ab Uthr"; Richard Jones, Robert Oldfield, a T. Whitley (diaconiaid Eglwys Queen Streot) a lluaws mawr eraill.

Wedi cyrhaedd y capel, yr hwn yn fuan a orlanwyd, rhoddodd y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug, yr hwn a lywyddai y gwasanaeth, un o emynau Hwfa allan i'w ganu "Gras o'r orsedd fry a redodd" &c. Yna darllenodd y Parch. Dr. Oliver, Treffynon, Salm xc. a gweddiodd yn effeithiol iawn. Y Parch. T. Roberts a sylwodd fod symudiad y bardd wedi peri i'r genedl deimlo, a hyny mewn modd mwy cyffredinol nag oedd yn cael ei arddangos yn y cynulliad hwnw, oblegid yr oedd lluaws o lythyrau wedi eu derbyn oddiwrth amryw bersonau yn datgan eu hanallu i fod yn bresenol. Yn eu plith yr oedd Mr. J. Herbert Lewis, A.S., Mr. J. Herbert Roberts, A.S., Syr T. Marchant Williams; Mr. P. Mostyn Williams; y Prifathraw Probert, D.D., y Parchn. Dr. Abel J. Parry, W. Foulkes, Llangollen; H. Elvet Lewis, Llundain; D. Williams, Llangollen; y Proffeswr J. M. Davies, Bangor; Mri Alltwen Williams; T. H. Thomas (Arlunydd Penygarn); Dr. Drinkwater, Dr. Parry, ac amryw eraill drosodd. Yr oedd eglwysi Bagillt; Brymbo; Queen Street, Gwrecsam; Bethesda; y Tabernacl, King's Cross, Llundain; a Llangollen lle y bu "Hwfa Mon" yn gweinidogaethu a Smyrna Llangefni, lle y dechreuodd bregethu wedi pasio penderfyniadau yn datgan teimlad o golled, trwy ei farwolaeth, a chydymdeimlad a'i berthynasau.

Yn ddiweddarach daeth y llythyr canlynol i law mewn attebiad i air ddanfonwyd i hysbysu y Brenin Edward VII. am farwolaeth yr Archdderwydd:—