wahanol yw pethau erbyn hyn, pan y mae cadeirfeirdd mor amled ar y ddaear a mwyar duon!
Darllenwyd y feirniadaeth gan Galedfryn yng nghanol distawrwydd y bedd; ac yr oedd y dorf fawr megis yn crogi wrth ei wefusau. Yr oedd clywed Caledfryn yn parablu Cymraeg yn ei ddull dihafal ei hun yn wledd na fwynheid ond yn anfynych; yn wir, rhaid i mi gyfaddef na chlywais i erioed ei ail. Wedi beirniadu nifer o gyfansoddiadau, a nodi allan eu diffygion a'u rhagoriaethau, daeth yn y diwedd at yr awdl fuddugol; a dyma ei ddesgrifiad o honi :— Yr Eryr.—Mae yr awdl hon yn orlawn o syniadau awenyddol, dillyn, tyner, a threiddiol. Y mae y dychymygiad yn dilyn Natur yn deg. Y mae y mydryddiad yn rhydd ac esmwyth. Y mae y gwaith yn arddangos gwreiddioldeb meddwl a syniadau priodol. Y mae yma ystyriaethau dyrchafedig, yn cael eu gwisgo mewn ymadroddion cyfaddas i'r amcan. Y mae priod—ddull yr iaith yn dda ac eglur. Y mae rhai o'r cylymiadau yn gyrhaeddgar ac awgrymiadol. Y mae yr awdwr, gydag aden eryr, weithiau yn ymddyrchafu uwchlaw pethau cyffredin, hyd uwchder teml yr Awen; a chyda llygad eryr yn cymeryd ei dremiad dros derfynau eang ei destyn. Y mae yn tynnu darlun o wahanol dymorau y flwyddyn, mewn lliwiau cryfion, gyda phwyntil cywrain.
Safai Eben Fardd, ar y pryd, yn fy ymyl; a chefais y fraint o gyffwrdd ag ymyl ei wisg: ac yr oedd hynny yn fwy peth yn fy ngolwg na phe cawswn siglo llaw â'r Frenhines. Prin y gallwn sylweddoli y ffaith fy mod yn sefyll ar yr un llwyfan âg awdwr anfarwol "Dinystr Jerusalem "—awdl a ystyriwn yn wyrth o brydferthwch yn nyddiau mebyd. Sylwais fod gwynepryd Eben wedi syrthio erys meityn; ac heb yn wybod i mi ymgiliodd o'r llwyfan, ac nis gwelais ef drachefn. Yr oedd y dorf yn awr yn llygaid ac yn glustiau i gyd—yn dal ei hanadl yn angerddoldeb ei disgwyliad, a channoedd ym mhen draw y babell yn sefyll ar flaenau eu traed. "A ydyw 'Yr Eryr' yn bresennol ?" gofynnai yr arweinydd. "Ydyw," meddai rhywun; ac yn y fan gwelwn Hwfa