Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cyfodi ar ei draed. Yr oedd y cyffro yn anesgrifiadwy. Rhwng y curo dwylaw, y chwifio cadachau, a'r banllefau byddarol, yr oeddwn bron a chredu fod pawb ond fy hunan wedi hanner gwallgofi. Cadeiriwyd y bardd gyda'r rhwysg arferol, a chefais innau y pleser o'i longyfarch ymhlith y rhai cyntaf. Ond yr hyn a osodai arbenigrwydd neillduol ar yr amgylchiad oedd, fod hen gylch y cadeirfeirdd wedi ei dorri am byth, a chyfnod newydd. yn hanes yr Eisteddfod wedi gwawrio.