Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ar y llaw chwith o'r drws gwelid Penmaenmawr a'r Penmaenbach, ynghyd a Charnedd Llewellyn, a Charnedd Ddafydd fel pe yn codi ar flaenau eu traed i ysbio dros ysgwyddau eu gilydd. Ac ar y llaw ddeau gwelid Goleudy Llanddwyn, a'r llongau bychain a mawrion yn gwibio heibio iddo, wrth fyned a dyfod i fasnachu i Borthladd Caernarfon. Wrth edrych tua Chaernarfon gwelid Baner Tŵr yr Eryr ar y Castell yn ymhofran uwch ben Afon Menai."

Dros drwyn Llanddwyn daw'r lli,
Drwy fariaeth gan dryferwi;
Croch rua tona y tân
Hyd orau gwal Bodorgan;
Gwel'd safnau dyfnderau dig
Y mor ddychryna Meirig.
Ond pan gilia, treia y traeth
Hudolus yn y dalaeth.
Yma gwragedd am gregin
A ffreuent, floeddient yn flin;
Ac ar ol eu cweryliaeth.
Y troes y cregin o'r traeth.
Ac ar helynt y ffrae greulon
Y Sir hyd heddyw sy'n son.

"Dyna y golygfeydd cyntaf erioed i mi weled yn y byd hwn, ac yr wyf yn cofio yn dda i fy Mam fy ngodi ar ei braich i 'ddangos y gwahanol leoedd i mi, ac yr wyf yn cofio y fath drafferth a gymerodd i gael genyf gofio enwau y gwahanol leoedd ar dafod leferydd, a dyna y dasg ddaearyddol gyntaf erioed a gefais gan fy Mam. Ond os oedd yr olygfa oddiallan i'r ty yn swynol yr oedd yr olygfa a geid oddifewn i'r ty yn llawer mwy swynol i fy Mam. Yn y ty yr oedd casgliad o lyfrau gwerthfawr wedi eu rhoi yn drefnus ar y dreser oedd o dan y ffenestr oedd yn nghefn y ty. Y llyfr cyntaf oedd o dan y llyfrau i gyd, oedd BEIBL PETER WILLIAMS, ac yr oedd gan fy Mam feddwl mawr o'r Beibl