Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnw, o herwydd cafodd ef yn anrheg ar ddydd ei phriodas gan ei chyfeillion yn yr ardal. Ac y mae genyf finau feddwl mawr o'r hen Feibl hwnw, canys yn y Beibl hwnw y dysgais ddarllen Gair Duw gyntaf erioed; a darllenodd fy Mam ef saith waith drosodd, ac y mae ol ei dagrau a'i hewinedd i'w gweled heddyw ar sylwadau Peter Williams, drwyddo i gyd."

Hyd lwybrau duwiol Abram,
Y mae ôl dagrau fy Mam.

"O'r hen Feibl anwyl yna y cymerais inau destyn fy Mhregeth gyntaf, a dyma y testyn":—

Y mae afon a'i ffrydiau a lawenhant
ddinas Duw; Cyssegr preswylfeydd y Goruchaf.

Psalm XLVI. 4.

"Y mae yr hanes i'w weled yn Dyddiadur yr Annibynwyr, gan y Parch H. Pugh, Mostyn, am 1847, ac y mae yr hanes yn gysegredig iawn yn fy ngolwg byth. Ac y mae Smyrna Llangefni yn Sêl ddofn ar lechau fy nghalon hyd heddyw. Yr addysg a ddysgodd ei Fam iddo yw yr addysg ddyfnaf yn nghalon pob bachgen ystyriol, ac yr wyf fi yn gallu profi hyny heddyw drwy drugaredd. Yr oedd fy Mam yn cael llawer o fwynhad yn y golygfeuydd eang oedd o'r tuallan i Ben—y—Graig, ond yr oedd yn cael llawer mwy o fwynhad wrth edrych a darllen y llyfrau oedd ar y dreser yn y ty o dan y ffenestr. Wedi iddi ddangos y Mynyddoedd a'r 'Wyddfa i mi, yr wyf yn cofio mor dda a phe cymerasai le ddoe, iddi ddywedyd wrthyf, Wel Machgen i yr oeddid yn synu wrth weled y Wyddfa yn nghanol creigiau Sir Gaernarfon, ond cofia di Machgen anwyl i, nad yw y Wyddfa sydd i'w gweled yn nghanol creigiau Sir Gaernarfon, yn ddim wrth y Wyddfa sydd i'w gweled yn nghanol y llyfrau ar dreser