Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gapel pan yr ymadawodd o'r lle. Yr oedd hefyd wedi myned yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn y wlad y pryd yma, ac yn hoffus gan ei holl Frodyr yn y Weinidogaeth yn y cylch, megis, Tanymarian; Ap Vychan; Gwalchmai; Dewi Ogwen; J. R.; Herber; Williams, Bangor; Griffiths, Amana; Griffiths, Bethel; &c. Yr oedd galwadau parhaus am dano i Bregethu, Beirniadu, a Darlithio. Cymerai ddyddordeb mawr yn Ngyfarfodydd Llenyddol y Gymdogaeth, ac yn neillduol felly yn Eisteddfod Gadeiriol Cymreigyddion Bethesda; ac Eisteddfod Flynyddol Annibynwyr Bethesda. Yr oedd ef a Tanymarian yn anhebgorion yr Eisteddfodau hyn. Yn Nhymor ei Weinidogaeth ef yma y sefydlwyd yr achos yn Treflys ac yr adeiladwyd y Capel cyntaf yno. Un gauaf rhoddodd i wyr Ieuanc y Gymdogaeth o bob Enwad gyfres o Ddarlithodd rhad ar "Y Gwr Ieuanc." "Y Gwr Ieuanc." Y rhai ar ol hyny a drefnodd yn Ddarlith boblogaidd, a bu gofyn mawr am dani ar hyd a lled Cymru. Yr oedd y Gyfres yn neillduol boblogaidd pan eu traddodwyd gyntaf o dan Gapel Bethesda; a chododd awydd mewn llawer gwr ieuanc i ragori, ac mae amryw yn fyw heddyw addefant iddynt gael eu deffro gan Hwfa yn y Darlithoedd hyny. Ond tua diwedd Haf 1867 dechreuwyd sibrwd fod ei fryd ar symud i Lundain; ac ar y 4ydd Awst 1867 rhoes rybudd i'r Eglwys yn Bethesda ei fod wedi derbyn galwad i Fetter Lane, Llundain, ac wedi ei hatteb yn Gadarnhaol; a thraddododd ei bregeth olaf fel gweinidog yn Bethesda ar y 10'fed o Dachwedd 1867 (Deunaw mlynedd a'r hugain i'r diwyrnod y bu farw) oddiar Heb. 1, 1.

Dechreuodd ei Weinidogaeth yn Llundain ar yr 17eg o Dachwedd 1867. Bu yn dra llwyddianus a phoblogaidd yma drachefn, a chasglodd yn nghyd lond Capel Fetter Lane o