Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymry Ieuanc Llundain. Gwnaeth waith mawr yma hefyd. Cliriodd yr hen ddyled, a helaethodd y Capel. Ymdaflodd i holl symudiadau Cymreig y brifddinas, a gwnaeth gyfeillion, o amryw o'r Cymry mwyaf amlwg yno. Yr oedd Yr oedd yn dra awyddus i ddychwelyd i Gymru, ac yn neillduol felly i Fôn, ei Fam Wlad. Amlygodd hyny iw gyfeillion, o dro i dro.

Yn Chwefror 1870 anfonwyd galwad unfrydol iddo o Amlwch, a chafodd lythyrau taer yn erfyn arno gydsynio oddiwrth yr hen Weinidog y Parch: Wm. Jones; ac oddiwrth y Parch. W. Griffith, Caergybi, ond methodd weled ei ffordd yn glir iw derbyn.

Yn Mawrth 1871 derbyniodd alwad unfrydol o Eglwys Hyde Park, Pennsylvania, ond gwrthododd hon drachefn. Yn Tachwedd 1875 anfonodd Eglwys Park Road, Lerpwl i ofyn ei ganiatad i osod ei enw o flaen yr Eglwys ond gwrthododd.

Yn Chwefror 1877 derbyniodd alwad unfrydol i Ruthin, yr hon a wrthododd hefyd.

Yn Ionawr 1881 derbyniodd alwad o Lanerchymedd a derbyniodd hi, a bu yno yn Gweinidogaethu hyd Medi 1887 pryd y rhoes rybudd i'r Eglwys y byddai yn ymadael. Tra yn Llanerchymedd codwyd ty i weinidog y lle. Yn mis Hydref 1887 derbyniodd Alwad o Llangollen lle y bu yn gwasanaethu hyd y daeth i deimlo fod henaint yn trymhau, ac yr argyhoeddwyd ef mai ei ddyledswydd oedd ymryddhau o ofal Gweinidogaethol, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1893 ac yr ymneillduodd i fyw i Rhyl lle y terfynodd ei yrfa.

Tra yn Llangollen cliriodd ymaith yr hen ddyled ar Gapel Trefor.