Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gadeiriol Llanfachreth Mon. Y testyn oedd Awdl ar Y Bardd." Y Beirniaid oeddynt Dewi o Ddyfed, a Gwalchmai. Dyfarnwyd ei Awdl ef yn oreu a Chadeiriwyd ef.

Yn 1858 enillodd ar y Cywydd Y Gweddnewidiad" yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, pryd y Cadeiriwyd Eben Fardd am ei Awdl ar Faes Bosworth."

Yn 1860 enillodd y Brif Wobr am Awdl Goffa i Ieuan Glan Geirionydd. Y tro nesaf ymgeisiodd am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ngaernarfon yn 1862. Y testyn oedd, "Y Flwyddyn." Y Beirniaid oeddynt, Caledfryn; Nicander; a Gwalchmai. Mae yn eithaf hysbys fod dyfarniad Nicander o blaid Awdl Eben Fardd, tra yr oedd Caledfryn a Gwalchmai yn gosod Awdl Hwfa yn oreu. Felly Hwfa Gadeiriwyd. Heblaw a enwyd yr oedd y Prif Feirdd canlynol hefyd yn cystadlu am y Gadair;—Dewi Wyn o Esyllt; Elis Wyn o Wyrfai; ac Ioan Emlyn; ynghyd ag wyth eraill.

Yn 1866 ymgeisiodd am y Gadair yn Eisteddfod y Cymry yn Nghastell Nedd am yr Awdl Goffa "Galar Cymru ar ol Alaw Goch," a dyfarnwyd ef yn oreu a Chadeiriwyd ef.

Yn 1867 ymgeisiodd am y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin am yr Arwrgerdd ar "Owain Glyndwr," a dyfarnwyd ef yn oreu a choronwyd ef yno. Y Beirniaid oeddynt, Petr Mostyn, a Llew Llwyvo. Yn 1873 ymgeisiodd drachefn am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Wyddgrug. Y testyn oedd "Caradoc yn Rhufain." Cyhoeddwyd ef yn fuddugol a Chadeiriwyd ef. Y Beirniaid oeddynt, —Tafolog; Trebor Mai; a Ioan Arfon.

Yn 1878 ymgeisiodd am y Gadair drachefn yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead am yr Awdl ar Ragluniaeth. Cyhoeddwyd ef yn fuddugol a Chadeiriwyd ef. Y Beirniaid oeddynt,—Hiraethog; Islwyn; ac Elis Wyn o Wyrfai. Yr oedd y Beirdd canlynol hefyd. yn y gystadleuaeth yma.—Tudno; Tafolog; a Dewi Wyn o Esyllt. Mae yn eithaf hysbys ei fod yn ymgeisydd am y Gadair yn Eisteddfod Genhedlaethol Llundain yn 1887 ar" Victoria" pryd y Cadeiriwyd Berw. Y beirniaid yno oeddynt, Dyfed; Tafolog, ac Elis