Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Englynion ar y testyn, a chefais inau yr anrhydedd o fod yn ail oreu, a hyny o dan feirniadaeth (Iocyn Ddu), un o feirniaid y Gadair fyth gofiadwy hono."

"Dyna y tro cyntaf erioed i mi anfon llinell i gystadleuaeth, a synais yn fawr fy mod yn teilyngu lle mor anrhydeddus yn nghystadleuaeth Eisteddfod oedd yn cael ei galw yn Freiniol, a hyny gan un o feirniaid y Gadair."

Y gwr a ddaeth ymlaen i dderbyn y wobr, oedd Mr. H. Beaver Davies, Llanerchymedd. Ar ol hyn, cefais inau fy ngwahodd gan y Llywydd ar y Llwyfan i adrodd fy Englyn yr hwn oedd yn ail oreu, ond er hyny derbyniais wobr lawer mwy ei gwerth na'r Gini, am yr ail Englyn, ar hyny galwodd y llywydd ar i awdwr yr Englyn ail oreu ddyfod i fynu i'r Llwyfan, i adrodd ei Englyn, a chyn bod y gair o'i enau aethym i'r llwyfan fel yr oeddwn, i adrodd fy Englyn. A dyna y tro cyntaf erioed i mi geisio dringo ar Lwyfan Eisteddfod i adrodd Englyn."

"Dyma yr Englyn i Syr John H. Williams, fel yr adroddwyd ef ar y Llwyfan yn Eisteddfod Aberffraw, a'r Englyn a farnodd Iocyn Ddu, yn ail oreu."

Hynaws wladgarwr hynod—yw Gwilym,
A gwawl i'r Eisteddfod;
Pur a glân y pery ei glod
Oesau y ddaear isod.

Yn Eisteddfod Gadeiriol Llanfair-Talhaiarn calan 1855 yr ymgeisiodd gyntaf am y Gadair, ac enillodd hi. Y testyn oedd Gwaredigaeth Israel o'r Aipht. Dyma y Feirniadaeth ar Awdl Hwfa fel yr anfonwyd hi i'r Eisteddfod, ac y darllenwyd hi yno,—

That signed Jethro' was one of the smoothest probably ever composed within the metrical rules which govern the Awdl' (mesurau caethion). It displayed a great deal of talent, but in parts it was too minutely historical, and somewhat wanting in poetic fire. It was, however, deemed well worthy of the prize.

Cadeiriwyd ef yno.

Yn yr un flwyddyn ymgeisiodd am y Gadair yn Eisteddfod