Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Nid oedd neb yn cael eu harholi cyn derbyn urddau yn y dyddiau hyny fel yn y dyddiau hyn. Yr unig beth oedd yn anghenrheidiol i dderbyn Urdd Bardd y pryd hwnw, oedd derbyn tystiolaeth oddiwrth Fardd yr Orsedd y gellid gwneud bardd o hono. Ac ar y dystiolaeth yna, y derbyniodd y personau canlynol eu hurddau barddonol yn Eisteddfod Aberffraw 1849."

William Powers Smith • • • (Gwilym Arfon)
Owen Edwards • • • (Owain Ffraw)
Robert John Price • • • (Gweirydd ap Rhys)
William Williams • • • (Gwilym Bethesda)
Samuel Owen • • • (Sâm o Fôn)
Evan Jones • • • (Ieuan Ionawr)
Robert Roberts • • • (Macwy Môn)
Rowland Williams • • • (Hwfa Môn)
John Hughes • • • (Cadell)
Daniel Hugh Evans • • • (Daniel Ddu o Fon)
William Lewis • • • (Gwilym Gwalia)
William Williams • • • (Gwilym Cefni)
William Trevor Parkins • • • (Gwilym Alun)
Robert Evans • • • (Trogwy)
John Edwards • • • (Ioan Dyfrdwy)
John Robert Jones • • • (Arfon Eilydd)
John Hughes • • • (Ioan Alaw)
David Williams • • • (Bardd Lleifiad)
Parch John Hugh Williams • • • (Cadvan)
Parch Hugh Owen • • • (Meilir)
Parch Hugh Norris Lloyd • • • (Bleddyn o'r Glyn)

"Diwrnod o flaen yr Orsedd, cyhoeddwyd y rhoddid gwobr o Gini am yr Englyn goreu i Syr John H. Williams, Bodelwydden, erbyn boreu yr Orsedd, yr oedd yr Ysgrifenydd wedi derbyn deg o