Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth i fewn yn mhell i'w chyfrinach. Dysgodd ei gwersi yn awyddus, i beidio. 'u gollwng yn anghof byth. Ei goleuni hi dynodd ei dalent i'r golwg, cyn i haul arall dywynu ar ei amgylchiadau. Dyna ysbrydolodd egnion cyntaf ei awen, ac a roddodd flas iddo ar erlid ysbrydion. Teimlodd yn gynar fod rhywbeth cydnaws a natur yn gyfaredd dirgel yn ei ysbryd, ac ymroddodd i'w ddadblygu er difyrwch iddo ei hun. Carai yr encilion, a hoffai unigedd, a chlywai swn drychiolaethau yn ymsymud o'i gwmpas, nes peri iddo anghofio ei hun wrth geisio deongli eu cenadwri. Digon prin fu ei fanteision, ond nid anffawd i gyd oedd hyny. Cafodd rhai o'r tueddiadau cryfaf oedd o'r golwg yn ei feddwl lonydd i dyfu yn naturiol, heb i drais allanol mewn un modd eu gwyrdroi o'i anfodd. Unwaith y ceir allan gyfeiriad meddwl, gwyn ei fyd wedyn os gall droi pob ffrwd i'w felin ei hun. Diffyg manteision ddaeth i'r golwg a rhai o'r cymeriadau mwyaf gwreiddiol mewn cymdeithas—cymeriadau digaboliad, heb rodres na mursendod yn andwyo'u natur. Y mae yn iechyd i fyd daro wrthynt am dro, a threulio awr yn eu cysgod; a gresyn eu bod yn darfod o'r wlad, i roi eu lle i'w salach. Dynion wedi tyfu fel derw ar gloddiau, heb olion bwyell ar eu gwraidd na'u brig. Ni aflonyddwyd ar dueddiadau naturiol meddwl Hwfa, a thyfodd yn fardd yn ddiarwybod iddo ei hun Ceir trem ar ei fywyd borenol mewn lle arall yn y gyfrol hon.

Yr oedd Hwfa yn gymeriad eithriadol yn inhob ystyr—yn ei allanolion, yn ei ddull o feddwl, yn ei barabl, ac yn ei gymdeithas. Yr oedd yn y cwbl fel efe ei hun, ac nid fel neb arall. Y fath bersonoliaeth urddasol! Yr oedd yn amlwg yn mhlith mil, ac nis gallai efe fod yn guddiedig. Tra yr ymgollai y lluaws yn nghysgod eu gilydd, fel rhedyn ar fynydd, yr oedd Hwfa yn tynu sylw pawb, a'i bersonoliaeth hardd yn cymhell edmygedd. Gofynid yn ddystaw