Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ei weled yn agoshau, "Pwy yw hwn?" "Beth all hwn fod?" "Nid yw hwn yr un fath a phawb." Yr oedd ei wyneb llawn, ei drem feddylgar, ei osgo weddus, ac urddas ei holl ymddangosiad, yn gwneud i'r hwn a'i pasiai edrych yn ol dros ei ysgwydd i gael ail olwg arno. Y mae dynion felly yn brin, ac amheuthyn yw taro wrthynt i dori ar unffurfiaeth cymdeithas. Yr oedd yn addurn yn mhob cylch, a'i wyneb yn llefaru, pan fyddai ei enau yn fud. Eithriad oedd cyfarfod a pherson a chymaint o fawrhydi o'i gwmpas, ac yr oedd ei harddwch allanol yn gynrychioliad teg o'r dyn oddi mewn. Nid felly y mae gyda phawb. Y mae y bodau duaf, weithiau, yn ymrithio ar lun engyl. Dyna ystyr y cyngor hwnw, "Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn." Gwyddom fod llawer yn y byd yn ddim amgen na beddau wedi eu gwynu. Ond yr oedd dynoliaeth Hwfa yn hardd fel ei wyneb. Argyhoeddid ni yn ei gymdeithas, ei fod yn foneddigaidd, ac yn hawdd ei drin. Gallai daro ei droed i lawr yn drwm pan fyddai angen, ond hyd y gwelais i, ymladdwr sal iawn ydoedd, a thristwch i'w galon oedd swn cyflafan. Gallai ruo fel llew, a gwneud taranau a'i lais, heb newyn am waed, na chynddaredd yn ei gymhell. Mab tangnefedd ydoedd, yn hollol ddiddichell, a difeddwl drwg. I'w gydnabod, yr oen, a'r golomen, oedd amlycaf yn ei gymeriad. Anaml y gwelwyd y fath gorfforiad o ddiniweidrwydd. Yr oedd mor llednais a gwyryf, ac mor dyner a chariad mam. Hawdd dylanwadu ar ddyn felly, a hawdd ei arwain i brofedigaeth yn ddiarwybod iddo ei hun. Ymhyfrydai mewn caredigrwydd, a gwnai gymwynas dan ganu. Yr wyf yn rhoddi arbenigrwydd ar y pethau hyn, am fod syniad llawer yn y wlad am dano yn wahanol. Nid oes dim yn cyfrif am hyny, ond diffyg adnabyddiaeth o hono.

Meddai ar dalent ffrwythlawn, ac yr oedd ei holl gnwd yn gynyrch ei