Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CORON BYWYD.

BYWYD.

TUEDD YMCHWILGAR.

TUEDD gref yn y meddwl dynol yw y duedd ymchwilgar. Trwy y duedd hon y mae y disgybl yn gofyn am lyfrau yn ol ei chwaeth, gan eu darllen, a dysgu ei wersi, ac wedi hyny y mae yn dringo i brif gadair yr athraw. Trwy nerth y duedd ymchwilgar y cafwyd allan y darganfyddiadau mwyaf yn y byd. Y tueddfryd hwn sydd wrth wraidd pob darganfyddiadau. Fel y mae y Main Spring yn yr awrlais yn peri i bob olwyn weithio, felly y mae yr ysbryd chwilgarol yn peri bywyd a gwaith drwy bob cymdeithas yn y byd. Pe tyner y main spring o'r awrlais, safai yr awrlais. Pe tyner yr Ysbryd yma o'r byd, safai y byd! Golygfa ofnadwy fyddai y byd wedi sefyll!

BYWYD YN DDIRGELWCH.

Er cynifer o bethau dirgel a gafwyd i'r golwg drwy y duedd ymchwilgar, y mae bywyd yn aros yn ddirgelwch eto, a diau yr erys felly byth! Y pethau agosaf atom yw y pethau tywyllaf ini. Y mae gwallt ein pen yn agos, y croen am ein