Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hesgyrn yn agos, ond y mae y bywyd sydd ynom yn nes na'r cyfan, ac er hyny dyna y peth tywyllaf i ni! Ond er fod hanfod bywyd yn ddirgelwch i ni, y mae genym rai dirnadaethau cywir am dano.

GWYDDOM BETH YW EI FLÂS.

Pan oedd hen daid Syr Lewis Morris, y bardd, yn mapio glanau y mor o amgylch Ynys Môn, cyfarfyddodd a hen batriarches o wraig yn Rhosnegir, yn casglu gwmon y mor. Pan ddaeth i gyraedd siarad a hi, gofynodd iddi a wyddai hi beth oedd lled a hyd, a dyfnder y Môr. Dywedodd yr hen batriarches na wyddai hi. Ond pa beth a wyddoch chwi am y môr ynte, gofynai Lewis Morris, ac ar hyny ateboedd, "Wel, Syr, os na wn i beth yw hyd, lled, a dyfnder y Mor, mi a wn beth yw ei flas cystal ag un lefiathian sydd yn swalpio ynddo." Felly os na wyddom ninau beth yw hyd, lled, a dyfnder môr bywyd, ni a wyddom oll beth yw ei flas.

Y mae y baban bach ar fraich ei fam yn gwybod am ei flas cystal a'r henafgwr canmlwydd oed. Ond er na allwn wybod ei faintiolaeth, ni a wyddom yn dda am ei Dyfiant. Nid ydym yn gallu ei weled yn tyfu. Ei weled wedi tyfu yr ydym. Planer y fesen a gwilier hi, nis gall neb ei gweled yn tyfu. Ei gweled wedi tyfu yr ydym. Diau mai llygad mam yn gwilio ei baban ar ei bron yw y llygad craffaf o bob llygaid. Ond er mor graff ydyw, nis gall weled y baban yn tyfu. Nid yw yn gallu gweled yr aelodau yn ymestyn, ac yn tewychu.