Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mynyddoedd. Gwneud ffordd i fellt a tharanau-Nofio y moroedd. Tramwyo y wybrenoedd, &c.

Yr ydym yn meddwl mai Job soniodd gyntaf am Goron, a hyny pan gododd ei elyn yn ei erbyn. Fel hyn y mae yn dywedyd.

"O am un am gwrandawai! wele fy nymuniad yw, i'r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifenu o'm gwrthwynebwr lyfr. Dian y dygun ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle Coron i mi. Job pen 31 adnod 36. Dyna y dull yr oedd prif fardd y byd yn ymddwyn at ei elynion!

PRYDFERTHWCH.

Y boneddigesau a ddechreuasant wisgo coronau. Gwisgant hwy i ddau bwrpas neillduol, i harddu eu pen, ac i ddal eu llaeswallt yn drefnus. Wedi hyny, o flwyddyn i flwyddyn, daeth yr arferiad o wisgo coronau ar neillduad breninoedd i'r orsedd. Gwnaed hyn er mwyn eu harddangos yn eu haddurniadau penaf. Y meddylddrych cyntaf yn nghoron bywyd yw harddwch bywyd. Bywyd pur, a sanctaidd. Talent lan, athrylith lân. Mae talentau mawrion i'w cael yn ffosydd llygredigaeth. Angylion athrylith yn nghobyllau llygredigaeth!

GWERTHFAWROGRWYDD.

Mae coron bob amser yn golygu gwerth mawr. Y mae