Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

perlau coron Victoria yn werth £112,000. Nid yw ond bechan o ran ei maintioli. Golyga coron bywyd, fawr werth bywyd. Y dyn a wnaeth leiaf o bawb oedd Methusalem. Cafodd oes hir ond ni wnaeth ddim yn werth i'w groniclo. Dylem ddiolch am oes hir, ond dylem gofio mai gwneud pethau o werth sydd yn coroni bywyd.

Lawrance Coster y Dutchman. rhaid dywedyd gwerth yr Argraff Wasg, cyn y gellir traethu gwerth oes hwn. Rhaid traethu gwerth y LLYTHYR CEINIOG, cyn y gellir traethu gwerth oes Syr Rowland Hill a'i sefydloedd. Ond gyda llaw, dylem ddywedyd, lle clywo y byd, mai S. R. o Lanbrynmair, oedd pia y meddylddrych gwreiddiol o'r LLYTHYRDOLL CEINIOG, a dylasai gael rhan o'r clod a rhan helaeth o'r clod. Beth yw gwerth BEIBL CYMRAEG, i Gymru uniaith yn yr Ysbyty, mewn gwlad estronol? Rhaid dywedyd gwerth hwnw, cyn y gellir traethu gwerth oes Dr. Gwilym Morgan o Langernyw.

Coron bywyd yn gwneud peth o werth yn ystod oes.

LLYWODRAETH.

Arwydda Coron Brydain lywodraeth Prydain. Er nad yw y goron ei hun ond bechan, eto, y mae yn arwyddlun o lywodraeth na fachluda yr haul ar ei gogoniant. Coron bywyd yw ei fod o dan lywodraeth dda. Dyn yn gallu cadw llywodraeth gyflawn arno ei hun. Dylai dyn ddysgu llywodraethu ei hun cyn dechreu llywodraethu neb arall.