Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DYN IEUANGC.

DYGWYD dyn i fodolaeth drwy ddull arbenicach nag un creadur arall. Drwy y gair BYDDED y dygwyd pob creadur arall i fod. Ond newidiodd Duw y gair i ddwyn dyn i fodolaeth, ac a ddywedoedd,—Deuwn a gwnawn ddyn. Awgryma y gair deuwn, fod mwy nag un person yn gwneud y creadur dyn. Diau fod yma gyfeiriad at y tri pherson sydd yn y Drindod Ddwyfol. Y mae y Tad, Y Mab, a'r Ysbryd Glân, yn cyd ddywedyd Deuwn gwnawn ddyn.

Rhydd hyn fwy o arbenigrwydd ar ddyfodiad dyn i'r byd na dim arall. Ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain. Dengys hyn fod dyn wedi ei greu wrth gynllun. Ni wnaeth Duw ddim erioed ond wrth gynllun. Ond o'r holl gynlluniau a gymerodd Duw i greu pethau, y mae y cynllun a gymerodd i greu dyn wrtho, yn uwch na'r un cynllun arall. Ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain. Dyma ddelw, a llun y DRINDOD.

"Y dyn, y dyn, di anaf,
Oedd lawn urdd, ar ddelw Naf."

Dygwyd dyn i'r byd yn ei lawn faint. Felly y dygwyd pob peth ar y cyntaf i fod. Yr eryr cyntaf yn ei lawn faint, yr anifail cyntaf yn ei lawn faint, y bwystfil cyntaf yn ei lawn. faint, a'r dyn cyntaf yn ei lawn faint. Ni chafodd neb y drafferth o fagu y dyn cyntaf. Mawr yw y gwaith a'r gofal, a geir i fagu y baban, cyn y daw yn ddyn. Y mae y fam yn cael llafur mawr i ddysgu y baban i sugno y fron, ac wedi ei gael i ddysgu sugno, y mae mwy o waith i'w gael i ddysgu