Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

peidio sugno. Llawer o helynt a geir i geisio diddyfnu ambell un oddiwrth y fron. Ac y mae ambell un heb ei ddiddyfnu pan y mae yn haner cant oed.

Ceir gwaith mawr i ddysgu ambell blentyn i ddysgu bwyta, ac i eistedd wrth y bwrdd. Ac wedi llwyddo i wneud hyn, y mae gwaith mawr i'w gael, i ddysgu i'r plentyn sefyll, ac i gerdded yn iawn. Ond ni chafodd neb y trafferthion hyn gydag Adda.

Cael ei hun yn gallu sefyll, a cherdded, wnaeth Adda, ac y mae yn ddiamau ei fod yn gallu sefyll a cherdded yn hardd iawn.

Y mae gwaith mawr i'w gael i ddysgu ambell blentyn i siarad, ac i ddeall ei iaith. Ond yr oedd Adda yn gallu siarad, a deall ei iaith yn berffaith, y tro cyntaf yr agorodd ei enau. Y mae llawer o ddyfalu wedi bod i geisio gwybod pa iaith oedd eiddo Adda, ond y mae hyny yn ddirgelwch hyd yn hyn. Ceir ambell Gymro go selog yn haeru mai yr iaith Gymraeg ydoedd ei iaith, ac mae eraill yn myned ar eu llw mai Cymro ydoedd.

Ond haeriadau heb fawr o seiliau iddynt, yw y rhai yna, ac nid oes dim llawer o bwys pa iaith a lefarai. Ceisia llawer ddychmygu pa fath ddyn ydoedd Adda. Haera y dyn bychan, mai dyn bychan oedd Adda, ac haera y dyn mawr, mai dyn mawr oedd Adda. Ond y mae yn ddiau, fod Adda yn engraifft o ddynoliaeth berffaith.

Y DYN IEUANGC.

Fel rheol, gartref ceir pob peth, pan yn ieuange. Gartref y mae y bwystfil, pan y mae yn ieuange. Bwystfil oddi cartref