Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HWFA MON. danllyd Hiraethog, yn fflamio trwyddynt, nes y mae pob peth ar dân mewn moliant!

HEDDWCH Y MILFLWYDDIANT.

Arfau rhyfel ni welir
Yn un ty o fewn y tir
Eu rhingyll i dir angof
I gyd fydd Morthwyl y Gof!


A'i forthwyl gwna'r gof wyrthiau—tra hynod
Try anian cleddyfau,
Ys eu hawch a dry'n sychau—godidog
Gyr y Miniog eirf yn grymanau.

Trwy ei ffydd try y waewffon—cyn pen hir
Hono ail enir ar ael ei einion!

Heb rith daw bendith y byd
Ar ei einion ryw enyd
A gwyl i'w Haul—forthwyl fydd
Er ei glod drwy y gwledydd.

Prysured, deued y dydd.
Diflano byd aflonydd,
Y tònog anghytuno,
A bár frad yn mhob rhyw fro
Y llid at y naill y llall
Y chwerwi at barch arall