Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y celwydd a'i aflwydd o
Eto allan a'r twyllo
Hunanedd du annynol
A'i fryd lyncai fyd i'w fol
Yr uchder, a'r balchder byw
Aelodyn o ddifl ydyw!

Os nad yw peth fel yna yn farddoniaeth ni waeth peidio a son am farddoniaeth byth. Na ddarllenydd, dyna farddoniaeth a garia ddylanwad i'r oesau a ddeuant; ac a ddyga fri i enw Hiraethog, yn meddwl pob dyn a'i darlleno yn ystyriol. Os dyweda rhai o ddarllenwyr y Dysgedydd, nad ydynt yn gweled dim neillduol yn y darnau a ddyfynwyd o'r Awdl odidog hon, rhoddwn gyngor iddynt fod yn ofalus wrth fyned drwy ffair y gwartheg, rhag ofn i ryw fuwch neu fustach, fwyta y Maimp sydd ar eu hysgwyddau.

Mae yn y llyfr bump o gathlau eraill, sef Marwnad Seisnig Hiraethog, i'w ddiweddar frawd, y Parch Henry Rees; Afon Fach y Bardd; Anerchiad hen Bererin cystuddiol i'w draed dolurus; Yr Hen Ben Maen Mawr; a Mrs. Eliza Jones, o Bodoryn Fawr.

Y mae y cathlau hyn oll, yn orlawn o farddoniaeth naturiol wedi ei gwisgo yn ngwisgoedd dillynaf yr iaith. Y mae y farwnad i'w frawd, yn llawn o deimlad byw hiraethol, ac yn cyffroi gwaelod y galon wrth ei darllen. Mae Afon Bach y Bardd, yn sisial yn ein clust, wrth ei darllen, ac yr ydym fel yn gweled y brithilliaid yn chware ar ei graian glas, ac fel yn clywed yr adar yn canu ar ei glanau.