Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pwy gododd Eben Fardd i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Hiraethog i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Gwalchmai i'r golwg, yr Eisteddfodd. Pwy gododd Clwydfardd i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Walter Mechain? A gallasem enwi lleng o rai eraill a godwyd i'r golwg gan yr Eisteddfod.

DYRCHAFU Y GYMRAEG.

Cwynir fod gormod o Saesonaeg yn yr Eisteddfod. Ond da genyf—ddywedyd fod yr Orsedd am ei chodi a'i chadw.

Y mae yr ORSEDD yn Gastell i'r Iaith Gymraeg, oherwydd yn gymraeg y mae pob peth yn cael ei ddwyn yn mlaen ynddi.

Y mae estroniaid yn ceisio llyncu ein gwlad. Maent yn llyncu ein hafonydd, ein Chwareli, ac y maent am lyncu y Wyddfa.

Ond ni wnant lyncu y Gymraeg, pam am ei bod yn rhy fawr i fyned drwy gyrn eu gyddfau.