Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YSPRYDOLIAETH Y BIBL.

I

Y BIBL.

WRTH yr enw hwn y meddylir, llyfr, llith, neu ysgrifen. Y mae yr enwau hyn wedi eu rhoddi ar yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ir dyben o ddangos eu rhagoriaeth ar bob llyfr arall. Peth pwysig iawn ydyw cael enw priodol ar bob peth, sef enw yn cyfleu y syniad cywir am natur yr hyn a enwir. Y mae genym lawer o enwau gwahanol am y Bibl, ond y mae yr holl enwau yn cyflwyno i ni yr un syniad goruchel am y Bibl. Gelwir y Bibl gan Esaia y prophwyd, yn Llyfr yr Arglwydd, gan Paul yr apostol, yn Llyfr y bywyd, a chan Ioan, yn Llyfr bywyd yr Oen. Cyfaddefir mai y Bibl yw y Llyfr hynaf o'r holl lyfrau aneirif sydd yn y byd, ac y mae pawb bron yn cydnabod mai Moses a'i hysgrifenodd gyntaf. Gelwir y Bibl weithiau yn Ysgrythyr, yn Ysgrythyr lân, yn Ysgrythyrau, ac yn Ysgrythyrau Sanctaidd, a hyny er mwyn en gwahaniaethu oddiwrth lyfrau anawdurdodedig ac Apocraphaidd. Ceir yr enw Ysgrythyr yn fynych yn y Bibl ei hun, pan y cyfeirir at rai o'i wahanol ranau, megis yn Mhrophwydoliaeth Esiah, pan y cyfeirir at addfwynder Mab Duw. "A'r lle o'r Ysgrythyr oedd efe yn ei ddarllen oedd hwn. Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef." Esiah 53. 7. Ond wrth yr Ysgrythyrau yn gyffredinol y meddylir yr Hen Destament, a'r Testament Newydd. Ac y mae yn ddiamheuol, mai y ddau Destament,