Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond heblaw hyn, nid ydym yn gwybod ond ychydig iawn am danom ein hunain. Y mae ein cyfansoddiad corphorol, a meddyliol, yn rhy ofnadwy i ni allu eu hamgyffred, ond er hyny, yr ydym yn credu yn eu bodolaeth. Yr un modd yr ydym yn credu yn ysprydolrwydd y Bibl, er nad ydym yn gallu ei lwyr ddeall. Ac y mae credu y Bibl yn bwysicach i ni na'i ddeall, canys trwy gredu y Bibl yr ydym i dderbyn y bywyd tragwyddol.

III.
SAILIAU EIN CREDINIAETH.

Y mae gwreiddioldeb a geir drwy y Bibl, yn ein dwyn i gredu yn ei ysprydolrwydd. Clywir llawer o son am wreiddioldeb meddyliau dynion, ond y mae yn beth sydd heb ei ganfod eto. Gwyddom am lawer wrth geisio bod yn wreiddiol wedi myned yn hurtiaid. Wrth graffu ar feddyliau awdwyr pob oes, yr ydym yn gweled mai byw ar feddyliau eu gilydd y maent, i raddau helaeth iawn. Y mae yn hawdd cael gwynebau, a gwisgoedd newyddion i hen feddyliau, ond y mae yn anhawdd cael y peth a elwir yn wreiddioldeb yn eu canol. Eilfyddu eu gilydd y mae prif awdwyr y byd bron. Ond ni cheir dim eilfyddiaeth yn y Bibl. Cyfododd rhyw ddynion ar ol Malachi ac Ioan Fedyddiwr, i geisio eilfyddu yr Ysgrythyrau; ond y mae gwahaniaeth dirfawr rhyngddynt a'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Rhodder paragraff o Llyfr Tobit, yn yr Apocripha, a pharagraff o Efengyl Ioan, i ryw chwaer ddarllengar, a duwiol, a hi a wyr y gwahaniaeth sydd rhwng eu blas yn ebrwydd. Y mae holl waith yr Arglwydd yn meddu gwreiddioldeb dwyfol, ac ni all neb ei eilfyddu. Tybiwn fod y