Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffaith yna yn Sail gref i ni gredu yn ysprydoliaeth y Bibl. Y mae sibrwyd anadl ddwyfol i'w glywed drwy yr holl Fibl. Fel y dywedodd Paul, wrth ysgrifenu at Timotheus, "Yr holl Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan Ysprydoliaeth Duw." II. Tim. 3-16. Neu yn ol y gwreiddiol, wedi cael ei anadlu gan Dduw. Fel yr anadlodd Duw anadl einioes yn ffroenau dyn, felly yr anadlodd ef ei air yn ngenau ysgrifenwyr y Bibl. Y mae y gair a anadlodd Duw yn ngenau yr ysgrifenwyr sanctaidd, yn anllygredig fel efe ei hun.

Y mae ei bresenoldeb dwyfol yn aros yn ei Air, fel yr oedd y Gogoniantlyn aros, ac yn preswylio rhwng y Cerubiaid gynt. Heblaw hyn, y mae unoliaeth y gwahanol brophwydoliaethau am y Messiah, yn profi eu bod oll o ddwyfol ysprydoliaeth. Cyfeiriwn yma at rai o'r prophwydoliaethau arbenicaf yn nghylch y Messiah i brofi ein gosodiad. Prophwydwyd am ddyfodiad y Messiah i'r byd yn ei gysylltiad llinachol,—a rhag ddywedwyd mai o had y wraig, mai o had Abraham, mai o Lwyth Juda, mai o gyff Jesse, mai o forwyn, ac mai had Dafydd y deuai. Prophwydwyd hefyd am dano o ran ei nodwedd foesol, a dywedwyd y byddai yn gyfiawn, ac y byddai yn ddioddefgar. Prophwydwyd am dano fel Cyfryngwr, fel Prophwyd, fel Brenin, fel Offeiriad, fel Eiriolwr, fel Prynwr,— ac y byddai ei ddyoddefiadau, a'i farwolaeth, yn feichniol drosom ni. Prophwydwyd hefyd, am lawer o amgylchiadau a gymerant le yn ei hanes personol. Prophwydwyd y genid ef yn Bethleham, y byddai yn ddiystyr a dirmigedig, y byddai dan gystudd a gorthrymder, y gelwid ef yn Nazaread, y iachai glefydau, y marchogai yn freiniol ar asyn i Jerusalem, y gwerthid ef am ddeg ar hugain o arian, y rhenid ei ddillad wrth goelbren, y diodid ef a finegr, y