Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V.

Y TESTAMENT NEWYDD YN CYDNABOD.

YSPRYDOLIAETH YR HEN DESTAMENT.

Un o'r profion penaf o ysprydoliaeth yr Hen Destament, yw ei fod yn cael i gydnabod gan y Testament Newydd. Ar y dyb o ysprydoliaeth yr Hen Destament, y mae y Testament Newydd yn sefyll. Diameu mai hon yw y ddolen sydd yn cysylltu y ddau Destament, a'r ddwy oruchwyliaeth. Hon yw y ffrwd o fywyd sydd yn rhedeg drwy holl ysgrifeniadau yr Efengylwyr, a'r Apostolion. Pe tynid ymaith ysprydoliaeth yr Hen Destament, ni byddai y Testament Newydd yn ddim ond twyll a hoced digymysg. Tryfrithir yr Efengylau ag esiamplau yn cyfeirio y dygwyddiadau yn hanes Crist, at y prophwydoliaethau yn yr Hen Destament. Hen Destament. "A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd: Wele morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab. Matt. i. 21-23." A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy iddo.

A'r Ysgrythyr a gyflawnwyd, yr hon a ddywed. Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai anwir. Marc, 15-27-28." Y mae Crist ei hun yn dywedyd fod yr Hen Destament yn cyfeirio ato ef fel ei brif ganolbwnc. "Chwiliwch yr Ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol, a hwynt hwy yw y rhai sy'n tystiolaethu am danaj fi. Ioan 5-39. Na thybiwch fy nyfod i dori y gyfraith na'r prophwydi, ni ddaethum i dori ond i gyflawni. Math. 5-27. Diamau mai y cysondeb hwn rhwng y prophwydoliaethau am y Messiah,