Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyflawniad yn Nghrist, a honiad pendant Crist, mai efe oedd eu gwrthrych, a darfod, mewn gwirionedd, eu cyflawni hwy ynddo, a chanddo ef ei hun,-hyn meddaf, oedd sylfaen athrawiaeth yr efengylwyr, a'r Apostolion; a hyn, meddaf, yw, ac a fydd, sylfaen athrawiaeth cenhadau hedd hyd ddiwedd amser. "Farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ol yr Ysgrythyrau; a'i gladdu, a'i adgyfodi y trydydd dydd yn ol yr Ysgrythyrau. 1 Cor. 15-3-4."

VI.

ETHOLIAD Y GENEDL IUDDEWIG.

Megis y mae yn amlwg i Dduw ethol dynion, a'u sancteiddio, a'u cynhyrfu i lefaru ac i ysgrifenu y Bibl,-" 'Canys nid drwy ewyllys dyn, y daeth gynt brophwydoliaeth,-eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glan," II Pedr 1,-21.

Felly hefyd rhyngodd bodd i Dduw ethol cenedl, a'u sancteiddio, er mwyn ei ddatguddio ef i'r byd drwy yr Ysgrythyrau. Wrth ddarllen hanes yr Iuddewon, yr ydym yn canfod na chaed yn eu mysg braidd neb yn talu sylw neillduol i gelfyddyd. Pan gymerodd Solomon arno y gwaith o adeiladu y Deml, bu raid iddo anfon i Tyrus, am fab gwraig weddw o ferched Dan, yr hwn oedd yn medru gweithio mewn aur, arian, pres, haiarn, ceryg, coed, porphor, Glas, lliain main, ac ysgarlad, i gerfio pob cerfiad, a dychmygu pob dychymyg. Enw y gwr hwn Hiram. II Cron 2,-12. Anfonodd Solomon am y Hiram hwn o herwydd nad oedd yn mysg yr Iuddewon yn Jerusalem neb allai wneud ei waith. Heblaw hyn ni wyddai neb yn mysg yr