Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iuddewon, ond ychydig iawn am gelfyddyd o ryfela. Duw oedd yn ymladd eu rhyfeloedd. Ac ychydig iawn o sylw a dalasant fel cenedl i athroniaeth, a gwyddoniaeth. Ond er hyn oll, yr oedd ganddynt athrofeydd y prophwydi yma ac acw drwy y wlad, yr hyn oedd yn dangos yn eglur fod eu meddwl fel cenedl wedi ei ddwyn yn hollol at bethau ysprydol. Fel hyn, y gallem gredu, y rhyngodd bodd gan Dduw, o'i anfeidrol ddoethineb, a'i ras, ethol a sancteiddio, a chynhyrfu, drwy ddylanwad ei Ysbryd, feddyliau un genedl, i roddi dadguddiad o hono ei hun i'r byd, drwy yr Ysgrythyrau santaidd. Tybiwn fod yr ystyriaethau a nodwyd, yn mysg eraill allasem nodi, yn seiliau cryfion i'n dwyn i gredu "Fod yr holl Ysgrythyr wedi ei rhoi drwy Ysbrydoliaeth Duw."

Llyfr ydyw y Bibl hyfryd—a lanwyd
O oleuni'r Ysbryd,—
A chyfraith y Nef hefyd.
Ydyw'r Bibl i gadw'r byd.