Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny, troes bob peth yn ddrwg. Tyfodd drain a mieri ar dir y blodau, ac ymledodd cymylau marwolaeth dros awyrgylch y bywyd pur. Ond er fod yn anhawdd cael enw da, nid yw yn anmhosibl ei gael. Y mae enwau da yn lluosogi bob dydd, ac y mae eu gogoniant yn myned yn ddysgleiriach yn barhaus. Dywedai Solomon mai "Gwell oedd enw da nag enaint gwerthfawr," ac yr oedd ef yn addas i roddi barn ar bethau, o herwydd addfedrwydd ei brofiad, ac eangder ei ddosthineb. Yr oedd gwerth mawr ar yr enaint yn ei ddyddiau ef, o herwydd defnyddid ef i eneinio yr offeiriaid a'r breninoedd; ond nid yw yr enaint rhagoraf ond darfodedig yn ei loewder a'i berarogledd. Y mae enw da yn tra rhagori arno, oblegid perarogla a dysgleiria yn hwy nag ef. Nid yw y gemau, a'r holl bethau dymunol, ond megys gwegi yn ei ymyl. "Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer."

Y mae yn werthfawr i'r dyn ei hun. Y mae y peth a ddyrchafo ddyn i sefyllfa o ymddiried yn werthfawr bob amser. Cyfodwyd Joseph i sefyllfa o ymddiried mawr yn yr Aifft, a Daniel yn Mabilon, a hyny trwy ddylanwad eu henwau rhagorol. Y mae harddwch pryd a gwedd, a gogoniant talent, yn dyrchafu llawer; ond y mae enw da yn dyrchafu ei berchenog yn llawer uwch na'r holl bethau hyn. Y mae hwn yn beth nas gellir ei ladrata. Gall y lleidr ladrata yr aur a'r arian; ond byddai mor hawdd iddo ysbeilio yr haul o'i oleuni, nag ysbeilio enw da oddiar ei berchenog. Gall dyn gario hwn gydag ef i bob man, ac ar bob adeg, heb ei deimlo yn faich. Gall amgylchiadau daflu cwmwl drosto weithiau ; ond daw i'r golwg drachefn, fel yr haul trwy y cymylau. Y mae enw da fel yr aur yn dal gwres y ffwrn, a deil wres y farn heb newid ei liw. Y mae hwn yn werthfawr i'r byd o'i amgylch. Y mae y creigiau a'r mynyddoedd yn werthfawr i'r