Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddaear. Wrth yr esgyrn hyn y mae cnawd a brasder y dyffrynoedd yn crogi. Heb y creigiau, byddai y ddaear fel un corsdir llynclyd a pheryglus. Mae y dynion sydd yn meddu enw da fel colofnau yn cynal y byd i fyny. Y rhai hyn ydynt esgyrn corff pob cymdeithas ragorol, ac y maent yn gryfach na holl greigiau y byd. Peth i'w enill ydyw. Y mae awydd angerddol mewn rhai am enw. Daw yr awydd hwn i'r golwg yn mwthyn y cardotyn, fel yn llys y brenin. Chwiliwyd allan lawer o ddychymygion, a gwnaed llawer ystrane rhyfedd gan lawer un er ceisio cael gafael arno. Ond nid pawb sydd yn ymbalfalu am dano sydd yn ei gyrhaedd ar lwybr cyfiawnder a barn; ac, o herwydd hyny, gwisgir llawer un a chywilydd yn lle anrhydedd a chlod. Y dyn ei hun sydd i'w wneud. Gall arall wneud llawer o bethau iddo; ond rhaid iddo ef ei hun wneud ei enw da, neu fod hebddo. Peth i'w wneud wrth reol ydyw. Nid oes modd gwneud peth yn dda heb reol dda. Gwna llawer bethau heb feddwl am reol yn y byd. Meddyliant heb reol, siaradant heb reol, gweithiant heb reol, a bucheddant heb reol; ac y mae yr olwg arnynt fel tylwythau o ganibaliaid yn yr anialwch. Os myn y plentyn enw da trwy ufuddhau i'w rieni, aed at y rheol, "Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni." Os myn enw da trwy fod yn onest, aed at y rheol, "Na ladrata." Os myn enw da trwy fod yn eirwir, aed at y rheol, Dywedwch y gwir bawb wrth eich gilydd." Os myn enw da trwy fod yn sobr, aed at y rheol, "Na feddwer chwi gan win," &c. Peth i'w wneud yn araf ydyw. Fel y gwna y darlunydd ei ddarlun o linell i linell, felly y gwneir enw da, o ychydig i ychydig, hyd nes y gorphener ef. Y mae y pethau a wneir yn araf yn gryfion, a'r pethau a wneir ar ffrwst yn weiniaid. Cicaion Jonah yw y peth a wneir ar ffrwst, ond y mynydd cadarn yw y peth a