Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wneir yn araf. Mae yr enw da a wneir yn araf yn dyfod yn fwy ac yn gadarnach bob dydd, a deua mor gryf yn y diwedd nas gall neb ei ddryllio ond ei berchenog ei hun. Fel y dystrywia y fellten wyllt y palas godidog, y cymerwyd blynyddoedd i'w adeiladu, felly y dystrywia un weithred wyllt yr ENW DA a gymerodd i'w berchenog fwy na haner canrif i'w weithio allan. O bob colled, colli enw da yw y golled fwyaf. Os oes rhyw rai yn amheu hyn, holant y carcharau, a gwrandawant ar lais y crogbrenau!