Nodwedd amlwg yn marddoniaeth Hwfa, yw ei pherthynas a'r dwyfol. Yr oedd yn gweled Duw yn mhob peth. Ni fyn rhai ei weled mewn dim, ac ystyriant ei gydnabod yn wendid. Dynion o'r ddaear, yn ddaearol, ac yn fwy na haner anffyddwyr yw y rhai hyn. Boddlon ydynt i dalu y warogaeth uchaf i dduwiau Groeg, ac i ofergoelion cenhedloedd eraill; ond na sonier am y Duw byw, nac am sylweddau mawrion y byd a ddaw. Canodd yr hen feirdd cenhedlig yn ardderchog i'w duwiau rhyfelgar; ond nid yw paganiaeth ynddi ei hun yn amod anfarwoldeb, ac nid yw awen i bara byth ac yn dragywydd i wasanaethu ar dduwiau gau. Y mae goleuni dadguddiad wedi tori'n fore ar Gymru, ac os yw ei beirdd yn canu yn yigoleuni hwnw, a llewyrch gwirionedd pur ar eu meddyliau, gwyn eu byd. Nid oes raid i ddyn aros yn bagan mewn tywyllwch i ddod o hyd i feddyliau teilwng. Yr ydym fel yr Hebreaid, yn genedl o dueddiadau crefyddol dyfnion, a gwirioneddau yr efengyl wedi cymeryd meddiant o reddfau dyfnaf ein natur-wedi dod yn rhan o honom, fel nas gallwn feddwl na gweithredu, heb gydnabod Crewr a Chynaliwr, a bendigo Ceidwad sydd a'i hanes yn ogoniant ac yn ras. Dyna'r rheswm fod gwedd mor dduwinyddol ar lenyddiaeth Cymru. Nis gallwn osgoi yr elfen hon, heb wneud cam a'n natur foesol fel cenedl; a phell fyddo'r dydd i feirdd Cymru wadu eu Duw, i foddio meddyliau sydd a mwy na'u haner yn glai. Tra fyddo'r Presenoldeb dwyfol yn y wlad, na feied neb yr offeiriaid am fod clychau'r cysegr yn crogi wrth odreu eu gwisgoedd.
Llanwodd Hwfa le amlwg yn nghylchoedd cyhoeddus Cymru. Yr oedd ei genedlgarwch yn angerddol, a charai ei wlad fel ei enaid ei hun. Soniai lawer am ei genedl, a dyma un o'r geiriau cynhesaf ar ei wefus. Canmolai lawer ar ei wlad, a braidd na chredai fod y ffordd i'r nefoedd yn nes o Gymru nag o un man arall. Yn ngwasanaeth ei