Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wlad y bu fyw, ac yn ei chariad y bu farw. Ymffrostiai yn ei dadau, a dygai fawr sel dros eu defion. Yn Ngorsedd y Beirdd, yr oedd fel brenin yn mhlith llu, a phawb yn foddlon iddo deyrnasu mewn heddwch. Gallesid meddwl yno iddo gael ei greu o bwrpas i fod yn Archdderwydd, a rhoddai addurn ar y swydd, ac ar ei holl gysylltiadau. Pwy mor olygus ar ben y maen? Yr oedd ei wyneb llydan fel codiad haul ar y cylch. Edrychai y cenhedloedd arno gyda'r dyddordeb mwyaf, a chredent ei fod yn gorfforiad o gyfrinion yr oesoedd gynt. Erbyn hyn, sefydlir gorseddau llenyddol mewn gwledydd eraill, ac efelychir Cymru yn y cyfeiriad hwn, i gadw ysbrydiaeth genedlaethol yn fyw. Y mae yr holl lwythau Celtaidd, bellach, wedi deffro ar bob llaw, ac yn agoshau at eu gilydd mewn. brawdgarwch a chydymdeimlad; a chydnabyddant yn rhwydd fod y deffroad cyffredinol hwn yn gynyrch Gwyl genedlaethol Cymru. O'i llwyfan hi, ac o gylch ei meini, yr aeth y tân allan, ac y mae yn llosgi yn genedlgarwch cynhes ar allorau cenhedloedd eraill. Dylai hyn enyn parch a chariad dyfnach at yr hen Sefydliad, a chreu awydd am ei wneud yn allu cryfach nag erioed i gyrhaedd yr amcanion uchaf. Glynai Hwfa wrth yr Orsedd am ei fod yn credu fod iddi genhadaeth er daioni; a gall fod o wasanaeth pwysig i'r Eisteddfod gydag ychydig undeb a chydweithrediad. Gan nad pa ddiffygion a berthyn iddi, y mae yn drwyadl Gymreig, ac nis goddef i unrhyw ddylanwad gyfyngu ar hawliau yr iaith. Y mae hyn yn rheswm dros i bob Cymro roi ei anadl o'i phlaid, a gwneud ei oreu i eangu cylch ei dylanwad. Gwyddom fod yr Eisteddfod ei hun, er's talm, wedi syrthio oddi wrth y gras hwn, ac wedi anghofio ei Chymraeg bron yn llwyr; a gresyn fod yr hen iaith mor ddiystyr o dan ei chronglwyd ei hun. Arwyddair sydd yn dod yn boblogaidd y dyddiau hyn yw. "Dim iaith, dim cenedl." Efallai mai darn o wirionedd