Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw hyny; ond y mae yn ddarn mawr iawn, oblegid y mae iaith yn rhan bwysig o fywyd cenedl, ac yn un o'r llinynau cryfaf i'w dal wrth ei gilydd. Heblaw hyny, y mae yn etifeddiaeth y tadau i'w plant ar eu hol.

Hawdd cyfrifam ymlyniad diollwng Hwfa wrth yr Eisteddfod—yr oedd yn un o'i phlant. Urddwyd ef ar ei maen hi ganol y ganrif ddiweddaf, a bu yn ffyddlon ac yn wresog o'i phlaid drwy ei oes. Yr oedd yn ddyledus iddi am ei nawdd, ac y mae hithau yn ddyledus iddo yntau am ei wasanaeth. Hen Sefydliad ardderchog yw yr Eisteddfod, ac y mae ynddi rywbeth sydd yn gydnaws iawn ag anianawd y genedl. Gwelodd lawer tro ar fyd, ac odid na wêl lawer tro eto cyn y bydd farw. Y mae oesoedd yn cyfnewid, ac yn ein dwyn yn ddarostyngedig i amgylchiadau newyddion, a chyfleusterau gwell. Y mae manteision addysg erbyn hyn, yn trawsnewid llawer ar bethau, ac yn creu y chwyldröadau mwyaf bendithiol yn holl gylchoedd bywyd. Er hyny, y mae i'r Eisteddfod ei lle ei hun, a gall fod o wasanaeth pwysig i'r wlad, heb ei llyncu i fyny gan sefydliadau diweddarach. Yn wir, y mae manteision addysg uwchraddol y wlad yn ddyledus iawn i'r Eisteddfod ei hun. Hon gadwodd y tân yn fyw nes i genedlgarwch diweddar ddeffro o gwsg, a chodi llef dros hawliau Cymru. Dyma'r Sefydliad addysgol goreu feddem yn yr hen amseroedd, pan oedd manteision addysg mor brin yn mhlith y werin. Chwerddir am ben y syniad o alw'r Eisteddfod yn goleg; ond y mae hyny yn codi o gulni meddwl y rhai nas gwyddant beth yw ymladd ag anghenion. Os nad yw yn goleg yn ystyr Prifysgolion y dyddiau hyn, fe brofodd ei hun yn goleg i lawer yn y dyddiau gynt, pan nad oedd yr un golofn arall i'n harwain trwy'r anialwch. Y mae llawer o brif enwogion y wlad yn ddyledus iddi am eu dysgu i feddwl, pan nad oedd cyfryngau eraill wrth law. Deffrodd dalentau a galluoedd fuasent wedi cysgu eu hunain i