Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

farwolaeth pe cawsent lonydd. Y mae deffro meddwl o'i gysgadrwydd, a rhoi cyfeiriad iddo mewn ymchwil am anfarwoldeb, o fendith fawr iddo ei hun, ac o wasanaeth mawr i gymdeithas. Mewn llafur y mae nerth a bywyd meddwl, ac y mae creu awydd am ragori yn gaffaeliad i fyd. Dyna mae'r Eisteddfod wedi ei wneud i lawer yn y wlad. Nid yw yn proffesu eu gwneud yn ddysgawdwyr, ond eu cynhyrfu o'u dinodedd tawel, a'u cyfeirio i dir uwch. Myn rhai gondemnio cystadleuaeth, am ei bod lawer pryd yn cynyrchu pethau digon sal. Ond os yw'r dyn ar ei oreu, tybed y gwnai yn well na'i oreu yn annibynol ar gymhellion allanol? Tybed nad yw y rhedegwr yn ymegnio yn fwy, pan yn teimlo fod arall ar ei sawdl? Cystadleuaeth sydd yn cadw'r byd yn effro yn mhob cylch, ac y mae yn ysbrydoliaeth ardderchog i'w yrru yn ei flaen.

Bydd enw Hwfa fyw yn hir, a'i glod yn uchel wedi i'r fynwent ei ollwng dros gof. Cododd ei golofn yn ei fywyd, a bydd yn amlwg i'r oesau a ddêl yn hanes Cymru. Gwelodd lawer o anhawsderau, a daliodd i ddringo drwyddynt i loewach dydd. Daeth i'r golwg yn ei nerth ei hun, heb neb i ganu udgyrn o'i flaen, ac enillodd boblogrwydd eithriadol yn ei holl gylchoedd. Y mae hyn yn brawf o gynheddfau naturiol gryfion, a bu dan orfodaeth drwy ei oes i'w cadw'n loew. Wedi ei ddigoni a hir ddyddiau i wasanaethu ei wlad, ei genedl, a'i Dduw, gorffwysed mewn hedd.

Blodeu'r dydd dan belydr da,
Gynhauafwyd gan Hwfa.