Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cant o bunau yn y flwyddyn am ei lafur. Ac yn y lle hwn y preswyliodd mewn llawnder, hyd nes yr hunodd yn yr angeu ar y trydydd dydd o fis Ionawr, yn y flwyddyn 1874, yn bedair blwydd a thriugain oed. Mae ambell un wedi dechreu ei oes mewn palas, ond o herwydd diogi ac afradlonedd, wedi marw mewn tlotty. Ond dechreuodd Nicander ei oes yn y bwthyn tlawd; a thrwy lafur a bendith, ymddyrchafodd o radd i radd, a chafodd farw yn ei balas.

PRIF WEITHIAU NICANDER.

Prif weithiau Nicander ydynt yr Homiliau cyfiethedig, y Flwyddyn Eglwysig, y Salmau Cân, Awdl y Greadigaeth, y Dwyfol Oraclau, Cyfieithiad Damegion Esop, Awdl yr Adgyfodiad, Pryddest Brenus, Pryddest yr Eneiniog, Awdl Cenedl y Cymry, Pryddest Moses, Awdl y Môr, Pryddest Dafydd, ac Awdl Sant Paul. Yr Awdl ar y Greadigaeth a roddodd iddo yr anrhydedd o eistedd yn nghadair Genedlaethol. Eisteddfod Aberffraw, yn y flwyddyn 1849. Pryddest Brenus a enillodd iddo y llawryf yn Eisteddfod Llangollen, yn y flwyddyn 1858. Pryddest yr Eneiniog a ddygodd iddo y deugain gini, yn Eisteddfod Dinbych, yn y flwyddyn 1860. Awdl Cenedl y Cymry a'i cyfododd i eistedd yr ail waith yn y gadair genedlaethol, yn Eisteddfod Aberdar, yn y flwyddyn 1861; a'r Bryddest ar Moses a roddodd iddo yr hawl ar yr ugain gini, a'r tlws arian, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn y flwyddyn 1862. Cyfansoddodd wmbredd o fan bethau eraill yn ystod ei oes; ond nid oedd y pethau hyny oll ond megys mân flodau wrth odre mynyddoedd, wrth eu cydmaru â'r cyfansoddiadau a nodwyd.

NICANDER FEL DYN.

Mae llawer yn meddu talent a dysg, ond yn dra diffygiol fel