Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/280

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedyd i ddyfodiad Alun a Nicander yno, fod yn gyfodiad o farw yn fyw i'r Eglwys Wladol yn y dref. Ac nid oedd hyny yn llawer o syndod: canys nid yn fynych y breintiwyd un dref a'r fath dalentau dysglaer. Ymddengys mai pan yr ydoedd. Nicander yn preswylio yn Nhreffynon, y gwnaeth ef yr englyn canlynol i'r Gwyddel a grogodd ei ffyn yn nghronglwyd ffynon Gwenfrewi:—

"At Wenfrewi, tan ei friwion,—heddyw
Daeth Gwyddel ar ddwy ffon;
Ond mendiodd,—lluchiodd yn llon,
Ei ffyn i ben y ffynon."

SYMUDIADAU NICANDER.

Wedi treulio pedair blynedd yn Nhreffynon, symudodd i guradiaeth Bangor, a chapeloriaeth Pentir, yn swydd Gaernarfon. Yn ystod ei arosiad yno, ymddyrchafodd i'r fath anrhydedd, ac enwogrwydd, nes y cynhyrfwyd awen Dewi Wyn i ddywedyd fel hyn am dano:—

"Morus William yw'r Selef—yr Heman,
A'r Homer digyfref;
Di feth un, dau o'i fath ef,
A wnai Wynedd yn wiwnef.

Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus
Sy'n un mawr rhyfeddol;
Ni fu ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."

Ar ol llafurio yn Mangor a Phentir am chwe' blynedd, aeth yn gurad o dan y Deon Cotton, i Lanllechid, lle y bu yn gwasanaethu am ddwy flynedd. Yn y flwyddyn 1846, penodwyd ef gan yr Esgob Bethel, i fod yn gurad parhaol yn Amlwch, swydd Fon. Wedi gwasanaethu am bedair blynedd ar ddeg yn Amlwch, dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llanrhyddlad, Llanfflewyn, a Llanrhwydrus, lle yr oedd yn cael tua phum'