Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Williams (Caledfryn)
ar Wicipedia





CALEDFRYN.

(GAN HWFA MON.)

CYNWYSIAD.

Ei naturioldeb—Ei ddestlusrwydd — Ei unplygrwydd—Ei eonder—Ei graffder—Ei eglurder—Ei sefydlogrwydd—Ei watwariaeth — Ei danbeidrwydd—Ei nawdd i addysg bur, a'i garedigrwydd gartref.

DIAU y cydnabydda pob dyn gafodd y fraint o adnabod y diweddar Barch. W. Williams (Caledfryn), o'r Groeswen, mai un o'r pethau cyntaf a welid ynddo ydoedd naturioldeb. Yr oedd yn naturiol yn ei edrychiad, yn ei wisgiad, yn ei ysgogiad, ac yn ei ddull o osod ei feddwl allan. Yr ydoedd yn amlwg fod natur wedi ei eneinio yn blentyn iddi ei hun; ac yr oedd ei henaint tywalltedig yn dysgleirio ac yn perarogli ar ei ben yn wastadol. Yn gysylltiedig a'i naturioldeb, yr ydoedd math o ddestlusrwydd llednais yn ymddangos trwy ei holl ymarferion. Y mae llawer dyn yn ymddangos yn naturiol, ond yn aflerw. Gellir canfod lleng o feirdd, llawn o athrylith farddol, yn meddu digon o naturioldeb, ond yn dra amddifad o ledneisrwydd ymarferol. Ond nid gwr felly ydoedd Caledfryn; o herwydd yr ydoedd ei ddestlusrwydd llednais ef yn dyfod i'r golwg yn brydferth yn ei holl gyflawniadau. Ei arwyddair ef ydoedd :— "Gwneler pob beth yn weddaidd, ac mewn trefn." Peth amlwg arall yn ei gymeriad oedd unplygrwydd gyda phob peth. Nid un wedi ymwisgo mewn dyblygion o dwyll a