rhagrith oedd ef; ond un mor noeth oddiwrthynt ag ydyw y gofgolofn farmor sydd yn addurno lle ei feddrod. Os duai ei wyneb gan ystorm ar amserau, nid oedd hyny ond arwydd o'r ystorm oedd yn llenwi ei ysbryd ar y pryd; ac os tywynai ei wyneb agored gan lawenydd, nid oedd hyny ond arwydd o'r llawenydd a'r hoen a goleddai ei galon ar adegau felly. Ni bu dyn ar y ddaear hawddach i'w adnabod nag efe; canys fel yr ymddangosai yn y cyhoedd, felly yr ydoedd yn y dirgel. Drwy y pethau hyn, yr ydoedd yn hawdd canfod elfen arall yn dyfod. i'r golwg yn ei gymeriad, sef ei onestrwydd. Yr ydoedd y son am onestrwydd Caledfryn wedi myned trwy Gymru fel diareb; ac yr ydoedd ei elynion bryntaf yn gorfod cyfaddef mai dyn ydoedd yn cael ei lywodraethu gan yr egwyddor euraidd o uniondeb diwyrni. Ni arferodd ef a dyrchafu y cyfaill ar draul darostwng y gelyn. Ei brif nod yn wastad ydoedd— Darparu pethau onest yn ngolwg pob dyn." Elfen arall oedd. yn ymddangos yn eglur ynddo oedd eonder meddwl. Ni wyddai Caledfryn beth oedd ysbryd llwfr a slafaidd; ac ni allai oddef cymdeithas y dyn llwfr a diyni. Yr oedd ganddo ef ddigon o eonder i ddywedyd y gwir yn ngwyneb pob dyn heb ofni y canlyniadau, ac feallai na ddywedodd un dyn fwy o wirionedd noeth yn ei oes na ddywedodd ef. Ei ddywediad mynych ydoedd,—"O'm lleddir am wir, pa waeth?" Ac nid yw hyn yn beth rhyfedd, canys yr oedd ef yn meddu eonder a beiddiad i fyned yn erbyn llifeiriant llawer o farnau cyffredin y byd; tra yr oedd eraill yn ymollwng yn llwfraidd gyda y llif. Llawer gwaith y clywsom ef yn dywedyd y geiriau hyn gyda nerth—"Y rhai cyfiawn sydd hyf megys llew." Yr ydoedd craffder barn hefyd yn ymddangos yn gryf, ac fel yn reddfol ynddo. Ni ollyngai un gwaith o'i law heb ei brofi wrth y rheol fanylaf. Arferai edrych ar bethau o bob cyfeiriad. Yr
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/290
Gwedd