Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

watwarol mor naturiol iddo ag anadlu. Deuai ei watwaredd i'r golwg trwy wahanol ffyrdd. Weithiau trwy droad ei lygad, nyddiad ei wddf, ysgogiad ei law, a brathiad ei air. Yr oedd cymaint o fin ar ei frath-eiriau weithiau, fel y gallai frathu y dyn mwyaf celffantaidd trwy ddyfnder ei galon; a mynych y gwelwyd rhai o'r tylwyth hwn yn gorwedd yn eu gwaed ger ei fron. Elfen amlwg arall ynddo ydoedd tanbeidrwydd ysbryd. Yr ydoedd tanbeidrwydd ei ysbryd yn angerddol ar amserau. Deuai ei angerddoldeb i'r golwg weithiau yn ei ymddyddanion. ar bynciau neillduol; megys dadgysylltiad yr eglwys a'r wladwriaeth, a gorthrwm y degwm a'r trethi. Ymddangosai tanbeidrwydd ei ysbryd hefyd yn ei ysgrifau, ei areithiau, ei farddoniaeth, ond nid yn fwy yn un man nag yn yr areithfa santaidd. Byddai yr olwg arno ar amserau, ar esgynloriau y cymanfaoedd, fel angel Duw. Gwelwyd tyrfaoedd callestraidd eu calon yn toddi fel y cwyr o flaen y ffwrn, o dan wres angerddol ei genadwri; a gorfodwyd i'w elynion gredu lawer tro, mai nid tân dyeithr oedd yn cyneu ar ei wefusau. Tybiai llawer y buasai yn well iddo beidio a bod mor angerddol ei ysbryd, oblegid y byddai mewn perygl weithiau i'w sèl fradychu ei wybodaeth; ond nid ydym ni yn tueddu i farnu felly am dano. Yn mysg y pethau hyn, yr oedd peth arall yn ymddangos yn llawn mor gryf ynddo, sef ei bleidgarwch dihafal i addysg rydd. Ysgrifenodd lawer, areithiodd lawer, dadleuodd lawer, a theithiodd lawer i amddiffyn addysg rydd yn y wlad; ac nis gwyr neb faint y daioni a wnaeth yn y cyfeiriad hwn yn ystod Yr oedd yr awyddfryd cryf oedd ynddo tros ddiwygiad crefyddol a gwladol, yn anhysbydd; ac nid ydoedd ei fod yn heneiddio yn effeithio dim i wanychu y tueddfryd hwn. Fel y mae gwlith y boreu yn ireiddio yr ardd flodau, felly yr ydoedd yr elfen o garedigrwydd yn eneinio holl gymeriad Caledfryn.