Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallai y dyeithrddyn feddwl wrth glywed Caledfryn yn siarad ar adegau, mai dyn o'r fath mwyaf cignoeth ydoedd; ond pe cawsai y dyn hwnw aros o dan ei gronglwyd am ddiwrnod neu ddau, cawsai weled mai dyn llawn o garedigrwydd a thynerwch ydoedd. Yr oedd ei garedigrwydd yn ei dŷ, ei groesaw i ymwelwyr, a'i gydymdeimiad a'r weddw a'r amddifaid, y cystuddiol a'r tlawd, yn ddigyffelyb; ac y mae lluoedd heddyw yn fyw allant ddwyn tystiolaeth i'r gwirionedd hwn. Diau y cyd-dystiolaetha pob dyn cyfarwydd â ni am yr anfarwol Caledfryn, fod yr elfenau a nodwyd yn gyfrodedd trwy ei holl gymeriad. Ond gwybydder, ar yr un pryd, nad ydym wrth grybwyll y pethau hyn, yn haeru nad oedd iddo yntau ei ddiffygion mawrion, fel pob dyn arall. Ond yr oedd y llinellau a nodwyd yn llewyrchu trwy ei gymeriad fel y llewyrcha y gwahanol liwiau yn yr enfys.