Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMWELIAD Y PARCH. R. WILLIAMS (HWFA MON) A'R AMERICA,

GORPHENAF 19eg, 1893.

AR gais taer Golygydd enwog y DYSGEDYDD, yr ydym yn ysgrifenu ychydig o hanes ein hymweliad â'r Gorllewinfyd, ac yr ydym yn tybio mai ysgrifenu yr hanes yn wahanol erthyglau byrion o fis i fis, fydd yn fwyaf derbyniol gan y darllenwyr.

I.

Y TEUTONIC.

Un o lestri ardderchocaf llinell odidog y White Star yw y Teutonic, ac wedi ei gwneuthur o'r defnyddiau durol goreu. Y mae yn 582 o droedfeddi o hyd, ac yn 57 a chwe' modfedd o droedfeddi o led, ac yn 39 a phedair modfedd o droedfeddi o ddyfnder. Gall tri chant o fordeithwyr eistedd gyda'u gilydd yn gomfforddus yn y cabin cyntaf, ac y mae digon o le yn yr ail gabin i 170 eistedd yn gysurus, ac y mae digon o le yn y trydydd cabin i 850 i fwynhau eu hunain yn ddigon hapus. Yn gysylltiedig â'r holl leoedd hyn, y mae ystafelloedd hyfryd i'r ysmocwyr wedi eu trefnu yn y modd mwyaf deniadol. Ac er mwyn gwneud yr ysmocwyr yn hapus, ceir digon o boerflychau gerllaw, fel na raid i un ysmociwr halogi ei boeryn yn mhoeredd y llall. Y mae holl ystafelloedd y gwelyau hefyd wedi eu trefnu yn y modd mwyaf rhagorol, ac y mae peraroglau dillad glán yn perarogli trwyddynt oll. Diameu fod gallu cyfoeth a chelfyddyd wedi bod ar ei oreu yn rhagddarparu y Teutonic, er mwyn ei gwneuthur yn un o'r llongau mwyaf hyfryd i fordeithwyr o bob dosbarth. Heblaw y pethau hyn, y