Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/301

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w weled ar bawb. Treuliasom y dydd hwnw ar ei hyd, mewn rhyw syn fyfyrdod, gan feddwl y gallasai yr un dynged ddygwydd i ninau ein tri. Wrth fûd fyfyrio ar y pethau hyn, ail deimlem ein calon yn llenwi o awydd diolch i'r Arglwydd am ei ofal tirion am danom. Ac erbyn hyn, yr oeddym yn dyheu yn fwy-fwy, am gyrhaedd pen y daith; ac am weled cyrau y wlad yn dyfod i'r golwg. Yr oedd ein holl enaid yn ein llygaid, yn tremio am y wlad dramor. Ond o'r diwedd, dyma floedd yn dywedyd fod y Pilot Boat yn y golwg. Ac er ein mawr lawenydd, gwelem ef yn hwylio tuag atom, a'r haul yn tywynu ar ei faner. Ar ol i'r Pilot ddyfod ar fwrdd y Teutonic teimlem ein hunain yn sirioli trwyddom, gan feddwl fod pob peth yn dda, ac nad oeddym yn nepell oddiwrth yr hafan a ddymunem. Tybiem fod y Teutonic fel yn llamu o lawenydd, pan y daeth y Pilot ar ei bwrdd, canys dechreuodd adruo ei ffumerau, ac ail chwyfio ei llumanau, fel brenines, a meistres y môr! Wedi morio fel hyn am rai oriau, gyda rhwysg, a mawredd, ar foment, clywem ryw Gymro yn gwaeddi, tir! ac erbyn edrych, yr oedd creigiau y Long Island yn y golwg. O! y fath orfoledd a lanwodd ein calon! Yn fuan wedi hyn, daeth y Sandy Hook i'n golwg, ac ar ol hyny, dechreuodd y New York Bay ymagor o'n blaen, ac yr oedd yr olwg arno yn ofnadwy ogoneddus! Gyda hyn, yr oedd yr holl for-deithwyr ar y bwrdd, a phawb yn tremio i bob cyfeiriad. Arafodd y Teutonic, a nofiodd yn esmwyth, hyd nes daethom i olwg dinas Efrog Newydd, a Brooklyn. Ac fel pawb arall, yr oeddym ninau ein tri, yn dechreu parotoi ein pethau gan lygaidrythu am y làn. Yr oedd yn awr tua haner awr wedi dau, prydnawn Mercher, y 26ain o Gorphenaf, 1893. Wedi cael pob peth yn drefnus, ac wedi gollwng ei magnel allan, nes crynu tir America, dyna y Teutonic yn llithro yn esmwyth i'r Doc,