Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lle yr oedd miloedd o bob cenedl yn gwibio, ac yn tremio arni. Ac wedi ei sicrhau yn ei lle arferol, dyma ninau, a chanoedd eraill, yn cerdded yn araf oddiar ei bwrdd, hyd nes cawsom ein traed ar geryg palmant America! Yr oeddym yn teimlo awydd diolch, a neidio, wedi cael ein traed ar y graig! Gyda ein bod wedi dyfod i lawr o’r llong, pwy oedd yno yn cyfarch gwell i ni, ond y brawd ffyddlawn y Parch. R. Lloyd Roberts, Bangor, Pa. Galwodd am gerbyd, ac aeth a ni i'n llety lle yr oeddym i aros, sef i'r Universal Hotel, 75, Clarkson Street, New York. Yno yr oedd Mr. a Mrs. Morgans, yn ein dysgwyl. Ac yno y cawsom gartref oddi cartref.