Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT dros ysbaid yn y ddinas fawr, ni bu i'w phrysurdeb fennu arno fel ag iddo golli ystyr tri pheth mwyaf barddonol y byd-cryd, modrwy a bedd. Aethum dros ei lyfrau 'r eildro 'r wythnos hon, a theimlwn fod yr awyrgylch yn hynod o iach-ni cheir ond dylifiad calon di-eiddigedd yn ei ganu, heb ergyd i neb ond i anghredwr. O'i barnu yn ol ei hysbryd, a'r galon a geir ynddi, y mae rhannau o'r farddoniaeth gyda 'r pethau goreu a feddwn, a tharddant o'r lle y cawsom ein cerddi pennaf—o galon gyffrous a meddwl hygoel plentyn y wlad.

II.

Yr ail ddylanwad mawr ar fywyd Hwfa Môn, fel ymron bob Cymro enwog arall oedd y cysegr. Magwyd ef yn nyddiau uniongredaeth dawél, canys ni chawsai hi eto gyfle i erlid, am na feiddiasai beirniadaeth hyd yn hyn roi ei llaw oer ar adnodau'r Beibl Cymraeg, na chynnyg tynnn tragwyddoldeb o uffern y Testament Newydd. A phan ddechreuodd Hwfa bregethu yr oedd meddwl y wlad wedi ei drwytho mewn rhyw fath of ofergrededd a'i gwnai yn dir da i dderbyn had yr hauwr Cymreig, oedd a'i natur yn llawn dwyster, cyfriniaeth, a gwres. Yn wir, rhoddodd y pulpud gyfle ardderchog i'r doreth barddoniaeth oedd yn ei natur lifo allan. Mor fyw y disgrifiai gyni'r ddafad goll a thaith ol—a—gwrthol y bugail, ac mor ufudd y bu ansoddeiriau iddo wrth ddarlunio'r nef a gorymdaith Ffordd y Gofid! Cymro ydoedd fel pregethwr yn ymdrechu, fel rheol i wthio'r gwir i'r galon, ac nid ei yru'n bwyllog trwy'r deall, y gydwybod a'r ewyllys, ac onid oedd yn hyn o beth, fel y rhelyw o bregethwyr mawr ei wlad, yn apelio at y llecyn mwyaf disgybledig ym mywyd ei genedl? Yn ei berthynas á chrefydd credaf mai yn ei ysbryd yr oedd ei fawredd. Yr oedd mor deimladwy a chariadlawn, mor serchog a diniwed, ac mor eang ei gydymdeimlad nes ei wneyd yn un o'r dynion mwyaf ennillgar yn y wlad. Dichon nad oedd yn hynod am rym ei