Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

argyhoeddiadau, canys ni bu raid iddo ymladd ei ffordd i'r goleu, a darganfod gwirioneddau'r Efengyl drwy gyfyngderau ac ing enaid. Cawsai efe ei gred yn etifeddiaeth, ac nid amheuodd erioed gadernid ei sail. Mater o ysbryd yn hytrach nag ymdrech oedd crefydd iddo ef. Er yn perthyn i'r Annibynwyr, ni bu erioed yn dadleu dros egwyddorion gwahaniaethol ei enwad, nac yn ymladd ym mrwydrau gwleidyddol y genedl. Paham hyn, tybed? Credaf ddarfod i mi eisoes awgrymu'r atebiad. Pobl yr argyhoeddiadau cryfion sydd yn myned i'r bylchau cyfyng; ond yn aml brwydrant dros y gwir mewn ysbryd anrasol iawn. Mewn Un yn unig y cafwyd gras a gwirionedd" mewn cyfuniad perffaith. Welwyd mo Hwfa Môn, yn aml, ond ar lwyfanau leted â'r genedl gyfan—llwyfan yr eisteddfod a maes y gymanfa, canys ni allai efe drywanu Cymro er cyfeiliorni o hwnw'n bell. Credaf na bu neb yng Nghymru yn gyn lleied o ddyn plaid ag efe, ac er mai clod amheus yw hynny weithiau, barnaf mai angen pennaf cenedl fechan fel nyni yw dynion o gyffelyb ysbryd i Hwfa Môn—o anwyl a thirion goffa. Cymro, dybygaf, yw y bardd—bregethwr, oblegid nis gwn fod pregethwyr unrhyw wlad arall yn barddoni cymaint a phregethwyr Cymru, na beirdd unlle arall yn pregethu fel awenyddion ein gwlad ni. Yr oedd Hwfa yn fardd ac yn bregethwr, ond er hynoted ydoedd yn pregethu'r gair, y bardd oedd amlycaf ynddo ef. Yr oedd y darlun yn fwy na'r wers, a'r lliw yn gliriach na'r egwyddor yn ei bregethau. Camp y bardd yw cuddio'r wers, camp y pregethwr yw ei dangos. Gwir, fod ambell ddisgrifiad barddonol yn cynyrchu teimladau dwysion, ac yn codi cwestiynau lu, ond y darlun tlws sy'n creu ac nid yn dangos y pryd hynny. Ceisiodd Hwfa ddwy goron dau arwr ei genedl, y bardd a'r pregethwr, a bu nesed i'w cael a nemor un; ond bu Duw yn ffyddlon i'w reol—nas gedy i neb goncro mwy nag un byd, ac fel bardd y bernir Hwfa Môn gan Gymru'r dyfodol. Yn y pulpud y cafodd y blas cyntaf ar boblogrwydd, ac awr bwysig mewn bywyd yw awr y blâs cyntaf, am mai yn honno fel rheol y taenir rhwydi