Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tynged dros yrfa pob dyn. Fel y phïol o'r hon yr yfodd Trystan ac Essyllt, y mae defnydd rhamantau oes yn y diferion cyntaf a yfir o gwpan blâs. Fel y câr y Sais arwr y chwareudy, felly yr anwyla'r Cymro wron y pulpud, ac am oes faith bu'r Cymry yn eistedd dan weinidogaeth Hwfa, fel yr eistedd gwahoddedigion mewn gwledd. Ond y diwedd a ddaeth, a machludodd yntau yn fendigedig o dlws. Hardd yw syllu ar ymddatodiad grasol, ond gwelwyd llawer arwr yn cilio i'r gorwel fel un heb weled tlysni gorllewin, na dysgu'r gelfyddyd o ffarwelio 'n rasol. Gwnaeth Hwfa Môn hynny, a phan yn gweled oes newydd a thraddodiad newydd yn dod i le'r hên, gwenodd efe wrth gyfarch yr oes newydd, a gwyrodd i'r anocheladwy fel tywysog. Dichon nad oedd yr hen wron yn deall ond ychydig iawn ar ysbryd a delfrydau y Gymru newydd oedd yn amgau o'i gylch yn grefyddol a llenyddol; ond hyn sydd wir, Cymraes oedd natur Hwfa Môn, ac yr oedd honno wrth reddf yn bendithio popeth oedd yn dwf o gred a thraddodiadau y genedl yn y gorphennol.

III.

Canrif fawr yn hanes Cymru oedd y ddeunawfed. Dyna ddyddiau'r Cyffrawd crefyddol grymusaf a brofodd y genedl. Yn ei dechreu yr oedd athrylith Pantycelyn yn troi profiadau dyfnaf ei genedl yn ganu, a thua'r diwedd yr oedd athrylith drefniadol Thomas Charles yn rhoi llun a threfn ar gynyrchion y Pentecost, ac enaid Ann Griffiths yn ymarllwys yn yr hymnau mwyaf angerddol a glybu'r byd erioed. Dichon mai dau ddylanwad cryfaf y Diwygiad ar lenyddiaeth y genedl oedd gogwyddo 'r meddwl at y Beibl a'r byd ysbrydol, a meithrin serch y bobl at ganu rhydd. Athrylith, yn unig, fedr gysegru arfau llenyddol. Coded rhyw Bantycelyn neu Ann Griffiths i ganu emynau, a bydd bywyd y pennill yn ddyogel, nydded rhyw Dafydd ab Gwilym gynganeddion ac nis derfydd am y cywydd, a thra bo telynegion Ceiriog yn dihidlo miwsig i glust y wlad ceir rhywun beunydd yn "ceisio canu cân." Mantais fawr i hoedl y gynghanedd oedd i Oronwy ei phlethu yn yr un oes ag y