Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canai Pantycelyn ei bennillion. Fodd bynnag, yn nechreu y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cawn rywbeth tebyg iawn i adweithiad yn digwydd. Ymrwyfai llawer yn anesmwyth yn erbyn disgyblaeth y seiadau, a daeth serch y Cymro at ramant, lliw a chlec i wrthryfel a Phuritaniaeth gyfyng "pobl y seiat.' Aed am ymwared at yr Eisteddfod, yr hon a groesawai gan ddigri, ac a achlesai hen ddefion a choelion y genedl. Yn fuan cyfyd traddodiad llenyddol newydd ac ysgol newydd o feirdd—yn cael eu blaenori gan Dewi Wyn, yr hwn a anwyd yn 1784 ac a nyddai gynganeddion cryfion, cywrain, yn nechreu 'r ganrif ddiweddaf. Yn ei oes ef yr aeth y beirdd i ogoneddu 'r gynghanedd groes, ac i ddiystyru, i raddau pell, y lusg a'r sain, ar waethaf y defnydd a wnaed o honynt gan y ddau feistr—Dafydd ab Gwilym a Goronwy. Rhyw ddeunaw mlwydd yn iau na Dewi oedd Eben Fardd, athrylith yr hwn a osododd fri mawr ar y gynghanedd, a thrwy ei gefnogaeth i gyfarfodydd llenyddol a wnaeth fwy na neb arall i greu a meithrin eisteddfodaeth yng Nghymru. Denwyd athrylith y wlad i'r Eisteddfod, gwnaethpwyd arwr o'r bardd cadeiriol, ac aeth blaenion y genedl i ymgiprys am safle'r pen campwr barddol. Dyna fel yr oedd pethau yn oes Hwfa, ac ymroddodd yntau fel ei gydoeswyr enwog—Caledfryn Hiraethog, Ap Vychan, Emrys ac eraill i ennill llawryfon yr Eisteddfod, ac ar ei llwyfan hi, yn 1862, pan y trechodd efe Eben Fardd ar awdly Flwyddyn," cafodd flas anniwall ar lwyddiant, ac hyd ei farw, yr oedd yr ysfa gystadlu yn llosgi yn ei waed. Bu gan yr Eisteddfod ddylanwad cryf ar ddatblygiad ei feddwl, ac fel y câr plentyn rodio'n llaw ei fam, y carai yntau ddilyn yr Eisteddfod. Ergyd englyn pert, cainc y delyn—deir—rhes, a meini'r Cylch Cyfrin oedd ei dri gwynfyd; ac yr oedd ei serch at ddefod gryfed ag ydoedd yn nerwydd yr hen oesau. Cyfunid grym a hud yn ei bersonoliaeth a'i gwnai yn hynod ym mhlith dynion. Nis gallai arlunydd fyned heibio iddo heb lygad rythu, na phlentyn ei weld a'i anghofio; a rhaid bod rhywbeth arbennig mewn wyneb all hudo celfyddyd a swyno plentyndod. Anodd penderfynu faint o'r Celt a'r Iberiad